Tudalen 1 o 1

sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Iau 30 Hyd 2008 1:30 pm
gan Gorwel Roberts
Oes rhywun yn gwybod beth yw'r ddamcaniaeth ddiweddaraf ynglyn a phryd nath yr acen symud o'r sillaf olaf i'r goben yn Gymraeg?

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Iau 30 Hyd 2008 2:15 pm
gan sian
Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn gwybod beth yw'r ddamcaniaeth ddiweddaraf ynglyn a phryd nath yr acen symud o'r sillaf olaf i'r goben yn Gymraeg?


Na, ond dw i'n cofio Bobi Jones yn adrodd darn o'r Gododdin â'r acen ar y sillaf olaf pan oedden ni newydd gyrraedd y coleg. Ro'n i wedi gwirioni'n bot! Felly mae'n rhaid ei bod wedi symud ar ôl y chweched ganrif? Ydw i'n iawn bod yr acen yn arfer bod ar y goben pan oedd terfyniadau fel rhai Lladin "-us", "-e", "-um" etc ar eiriau Cymraeg a bod y terfyniadau wedi'u colli a'r acen wedi aros yn lle oedd hi - sef ar y sillaf olaf erbyn hynny - ac wedyn ei bod wedi symud nôl i'r goben - 'ta dim ond un ddamcaniaeth yw honno?

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Iau 30 Hyd 2008 2:22 pm
gan Mr Gasyth
sian a ddywedodd:Felly mae'n rhaid ei bod wedi symud ar ôl y chweched ganrif? Ydw i'n iawn bod yr acen yn arfer bod ar y goben pan oedd terfyniadau fel rhai Lladin "-us", "-e", "-um" etc ar eiriau Cymraeg a bod y terfyniadau wedi'u colli a'r acen wedi aros yn lle oedd hi - sef ar y sillaf olaf erbyn hynny - ac wedyn ei bod wedi symud nôl i'r goben - 'ta dim ond un ddamcaniaeth yw honno?


felly dwi wedi deall hi hefyd. Yn wir, nes i rioed feddwl fod yna gyfnod wedi bod lle roedd yr acen ar y sillaf olaf - ron i'n cymryd i'r acen symyd ar yr un pryd ag ollyngwyd y terfyniadau.

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Iau 30 Hyd 2008 3:59 pm
gan Gorwel Roberts
Dyna'r theori dwi'n meddwl, colli terfyniadau'r Frythoneg, acen ar y sillaf olaf, acen yn symud i'r goben eto. Os ddarllenwch chi Gramadegau'r Penceirddiaid mae 'na son bod gair fel 'afon' yn cynnwys 'o' hir yn y sllaf olaf e.e. 'afôn' ond bod 'kalonn' (calon) yn cynnwys 'o' fer. Mae hyn yn tarddu o'r cyfnod pan oedd yr acen ar y sillaf olaf mae'n debyg.

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Gwe 31 Hyd 2008 9:06 am
gan Seonaidh/Sioni
Aidh, dyna beth dw innau wedi clywed - "Gwỳr a aeth Gatràeth...Trychànt trwy beiryànt yn cataù..." ac yn y blaen. Ond dyma beth arall i'w ystyried. Pam mae acen y Gymraeg (Cernyweg, Llydaweg) ar y goben, ond acen yr Aeleg (Gwyddeleg, Manaweg) ar y sillaf gyntaf? Maent i gyd, yn ol y ddamcaniaeth ddiwetha, yn tarddu o "Gelteg yr Ynysoedd" yn hytrach nag o "Gelteg y Cyfandir".

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Gwe 31 Hyd 2008 10:18 am
gan Gorwel Roberts
cwestiwn dyrys, mae'n siwr bod rhywun yn gwybod, ond nath Goideleg a Bryhtoneg ymrannu'n gynnar iawn, yndo?

ond pryd nath yr acen symud yn Gymraeg?

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Gwe 31 Hyd 2008 10:39 am
gan Mr Gasyth
Gorwel Roberts a ddywedodd:cwestiwn dyrys, mae'n siwr bod rhywun yn gwybod, ond nath Goideleg a Bryhtoneg ymrannu'n gynnar iawn, yndo?

ond pryd nath yr acen symud yn Gymraeg?


sut ma pobl yn gwybod lle oedd yr acen ers talwm. onid ydi o fel ynganiad lladin yn nad all neb fod yn siwr gan nad ydan ni'n galu clywed hen Gymraeg yn hytrach na dim ond ei darllen?

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Gwe 31 Hyd 2008 11:09 am
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:
sut ma pobl yn gwybod lle oedd yr acen ers talwm.


Dw i newydd gael golwg sydyn ar Datblygiad y Gymraeg, Henry Lewis a wela i ddim byd. Ga i olwg eto pan ga i funud.

Mae'n siwr bod yr odlau mewn hen farddoniaeth yn helpu i ddangos - e.e.

Gwŷr a aeth Gatraeth oedd ffraeth eu llu
Glasfedd eu hancwyn a gwenwyn fu

Re: sillaf olaf a'r goben ac ati

PostioPostiwyd: Gwe 31 Hyd 2008 11:51 am
gan Kez
Dyma beth mae’r wicipedia yn ei ddweud:

Safle'r acen yn y Frythoneg oedd ar y sill cyn yr olaf. Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw'r sill olaf, fe fyddai’r acen ar y sill olaf o'r gair newydd, e.e. trīnĭtātem i trindáwd, a'r acen ar y sill olaf –áwd (dynoda ΄ safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r sill cyn olaf i roi tríndawd. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr aw oedd bellach yn ddiacen i o gan roi'r gair modern trindod. Ha a hac oedd ein ac a'n a ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).

Wedi dod o http://cy.wikipedia.org/wiki/Hen_Gymraeg