Tudalen 1 o 2

Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Rhag 2008 10:41 pm
gan xxglennxx
Mae yn ffrind i'n deud bod dechreuodd hi yng Ngwent.

Oes gan rhywun hunrhyw syniad(au) o le y ddechreuodd?

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 10:43 am
gan Macsen
Sbaen.

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 12:21 pm
gan 7ennyn
Pacistan.

Re: Ble dechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 11:48 pm
gan Seonaidh/Sioni
Gwent? Pwy wetws ynny?

Beware the rabbit be dych chi'n feddwl gan "ddechreuodd". Mae "Sbaen" yn cyfeirio at y ffaith symudodd rhai hen Geltiaid oddi yno i Brydain/Iwerddon rywbryd. Ond ai nhwnhw y rhai arferai iaith gyndeidiol i'r Gymraeg? Mae "Pacistan", efallai, yn cyfeirio at hen famwlad yr Indo-Ewropeaid (ond fod lot o bobl yn lleoli hynny'n nes at Iran, Wsbecistan, Casagstan a'r cylch).

Be di "Cymraeg"? Ydi hyn yn cynnwys, e.e., Canu Taliesin a Chanu Aneirin, hen gerddi Cymraeg gafodd eu cyfansoddi yn ymyl Caerliwelydd a Chaeredin? Ydi hyn yn ymestyn nol cyhyd ag iaith gyndeidiol i'r Gernyweg a'r Llydaweg yn ogystal a'r Gymraeg? Tisho cynnwys Gwyddeleg, Manaweg a Gaeleg? Galeg a Cheltibereg? Iaith y Galatiaid? Lladin a Hen Almaeneg? Pob iaith "Centum"? Pob iaith Indo-Ewropeaidd? Pob iaith y byd? Hwntweg? (OCE - tipyn o dynnu coes...)

Ateb 1: Rhywle yn Affrica, efallai 500,000 flynedd yn ol

Ateb 2: Pan sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Ateb 3: Ble bynnag dych chi'n moyn rhyngddyn nhw.

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2008 4:03 am
gan Gwenci Ddrwg
Cymru falle?

Re: Ble dechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 10:35 pm
gan xxglennxx
Roedd hi'n deud bod Cymraeg "addas" ('proper) wedi dechrau yng Ngwent.

Sori, roedd y post cyntaf tipyn o gamarweiniol; nid o le y daeth, ond lle y ddechreuodd yng Nghymru.

Glenn

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 9:03 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi ddim yn siwr a oes 'na ateb i hyn - roedd Hen Gymraeg (tua rhwng 550 - 1150) ar y cychwyn yn cael ei siarad dros y rhan fwyaf o Brydain, ac erbyn diwedd y cyfnod hwnnw yng Nghymru 'fodern' a rhannau gweddol mawr o'r lefydd fel Swydd Henffordd a Chaer - felly mae'n siwr ei bod hin' amhosibl dweud yn union lle dechreuodd Cymraeg wrth iddi ddechrau ddatblygu fel iaith ar wahân i'r Frythoneg.

Mae Cymraeg Canol (tua 1150 - 1550) yn debycach o gryn dipyn i Gymraeg modern na Hen Gymraeg, ond byddai gwreiddiau honno naill ai'n bendant yng Nghymru neu'n rhywle ar y ffiniau, felly mae'n gwbl bosibl y byddai wedi dechrau yng Ngwent - er i fod yn onest hyd yn oed os ystyrir bod Cymraeg Canol wedi cychwyn yn y 12fed ganrif, mae'n anodd iawn, dybiwn i, pinpointio lle ddechreuodd.

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 12:26 pm
gan ceribethlem
Bethlem

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 2:09 pm
gan Duw
Os wyt ti'n son am Gymraeg Plant Duw ei Hun, dechreuodd rhyw 200 mlynedd yn ol pan gafodd y Gwter Fawr ei sefydlu. Aeth trigolion y pentre hwn dros y Mynydd Du ac addysgu barbariaid Bethlem a Llangadog a dod a'r Gair Da iddynt. Yna lledodd yr iaith 'fel y meil' i bob cwr o Gymru. Yn anffodus, mae'r iaith ers hynny wedi'i lygru gan dafodiaethau ffiaidd, yn enwedig honno o lwyth Japs Cwmtwrch (Uchaf ac Isaf - maen nhw trwy'r trwch 'na).

Re: Lle ddechreuodd y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 2:23 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Os wyt ti'n son am Gymraeg Plant Duw ei Hun, dechreuodd rhyw 200 mlynedd yn ol pan gafodd y Gwter Fawr ei sefydlu. Aeth trigolion y pentre hwn dros y Mynydd Du ac addysgu barbariaid Bethlem a Llangadog a dod a'r Gair Da iddynt.

Bo-