gan Seonaidh/Sioni » Sad 20 Rhag 2008 11:48 pm
Gwent? Pwy wetws ynny?
Beware the rabbit be dych chi'n feddwl gan "ddechreuodd". Mae "Sbaen" yn cyfeirio at y ffaith symudodd rhai hen Geltiaid oddi yno i Brydain/Iwerddon rywbryd. Ond ai nhwnhw y rhai arferai iaith gyndeidiol i'r Gymraeg? Mae "Pacistan", efallai, yn cyfeirio at hen famwlad yr Indo-Ewropeaid (ond fod lot o bobl yn lleoli hynny'n nes at Iran, Wsbecistan, Casagstan a'r cylch).
Be di "Cymraeg"? Ydi hyn yn cynnwys, e.e., Canu Taliesin a Chanu Aneirin, hen gerddi Cymraeg gafodd eu cyfansoddi yn ymyl Caerliwelydd a Chaeredin? Ydi hyn yn ymestyn nol cyhyd ag iaith gyndeidiol i'r Gernyweg a'r Llydaweg yn ogystal a'r Gymraeg? Tisho cynnwys Gwyddeleg, Manaweg a Gaeleg? Galeg a Cheltibereg? Iaith y Galatiaid? Lladin a Hen Almaeneg? Pob iaith "Centum"? Pob iaith Indo-Ewropeaidd? Pob iaith y byd? Hwntweg? (OCE - tipyn o dynnu coes...)
Ateb 1: Rhywle yn Affrica, efallai 500,000 flynedd yn ol
Ateb 2: Pan sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Ateb 3: Ble bynnag dych chi'n moyn rhyngddyn nhw.
A bheil thu gam aithneachadh?