Tudalen 3 o 3

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Iau 21 Mai 2009 10:28 pm
gan Duw
Mae adran NEWYDDION wedi'i diweddaru. Mae'r casgliad nawr yn cynnwys ffrydiau RSS o BBC Newyddion; BBC Chwaraeon; BBC Gwleidyddiaeth; Golwg 360 (oddi wrth Golwg Arall - Daflog); Barn a'r Daily Post**.

Hoffwn ddiolch o'r galon i Dafydd a wnaeth ddarganfod sgript arbennig o ddefnyddiol er mwyn dosrannu'r xml ac am y ffynhonnell i Golwg360. Hollol genius Daf.

Os ydych yn darganfod mwy o ffrydiau RSS a hoffech weld ar maes-e, cysylltwch â minnau neu Hedd.


**mae Daily Post yn araf iawn yn bresennol, felly mae wedi'i dynnu oherwydd ei fod yn atal y dudalen rhag llwytho. Os gwnaiff gyflymu, caiff ei ailsefydlu. Ymddiheuriadau am hyn.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 11:49 am
gan Duw
Y TYWYDD wedi'i ychwanegu i'r rhestr o ddiweddariadau. Dwi wedi 'sgrabyn' data o feysedd eraill ac wedi ceisio â chynhyrchu teclyn a fydd yn cynnig rhagolwg 5 diwrnod. Rwyf wedi cynnwys canolfannau 'swyddogol' ac mae o leiaf un ym mhob sir. Mae'n ymddangos bod Ynys Mon ag obsesiwn â'r tywydd!! Gwerthfawrogaf unrhyw sylwadau ar sut i'w wella.

[attachment=0]tywydd.jpg[/attachment]

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 12:52 pm
gan Hazel
Duw, diolch o'r galon am eich gwaith i gyd! Rydyn ni'n ei werthfawrogi ef. Maddewch fy anwybodaeth ond beth yw "RSS" yn dweud, ogwydd?

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 2:15 pm
gan Duw
DIolch Hazel. RSS yw 'Really Simple Syndication' (wel un o'r esboniadau). Mae'n ddogfen ar ffurf XML (eXtensible Markup Language) sydd â thagiau cyffredin sy'n caniatau darllenwyr RSS i'w dangos ar ffurf safonol. Fel rheol, byddant yn cynnwys crynodebau o erthyglau newyddion gyda dolenni i'r brif stori (gweler tudalen 'Newyddion'). Mae rhai mathau'n cynnwys dolenni at cyfrwng fel ffeiliau sain a fideo. Rydym yn galw'r rhain yn 'podlediad' (podcasts a vidcasts).

Nid yw'r 'Tywydd' wedi'i gymryd o ffrwd RSS, roedd yn rhaid 'sgrabyn' gwefannau er mwyn dod o hyd at 5 diwrnod. Fel rheol mae ffrydiau RSS (e.e. o Yahoo a'r BBC) ond yn caniatau rhagolygon 2 diwrnod.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Gwe 29 Mai 2009 5:31 pm
gan Hazel
Diolch am esboniad, Duw.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Iau 11 Meh 2009 2:42 pm
gan Duw
SPOTIFY MEWN BBCODE

Dwi newydd wedi cael spotify i weithio fel eitem bbcode. Gallwch nawr rhannu eich hoff ganeuon gyda defnyddwyr eraill ar maes-e.
spotify.png
spotify.png (73.16 KiB) Dangoswyd 480343 o weithiau

1) Dewiswch eich hoff gân o spotify (ymaelodwch a lawrlwythwch y cleient, os nac ydych wedi'i wneud eisoes o https://www.spotify.com/en/download/windows/) a gwneud clic-dde arno a dewis Copy HTTP Link i roi'r URL i'ch clipfwrdd.

2) Pwyso botwm spotify uwchben y blwch ysgrifennu mewn maes-e. Gwelwch par o dagiau ( [spotify ][/spotify ]). Gludwch cynnwys y clipfwrdd i ganol y rhain, (e.e. [spotify ]http://open.spotify.com/track/5CYVudnz9adXy4VgdTvFbI[/spotify ]).

3) Bydd eicon yna'n ymddangos yn eich post gyda chysylltiad i'r gân, e.e.


(Hoffi Blackfoot? wel dyma "Highway Song" o 1979)

Ger llaw, os ydych yn pwyso'r ddolen uchod, cewch 'popup' yn gofyn os ydych am lansio'r pecyn. Dim ond ffordd o'ch diogelu yw hwn. Pwyswch y botwm i lansio a bydd y gân yn dechrau chwarae ymhen eiliad neu ddwy.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Maw 06 Gor 2010 3:17 pm
gan Duw
Gallwch anghofio'r nodweddion newydd am nawr! Mae'r 'mods' wedi'u tynnu er mwyn cyflymu'r safle. Roedd nifer ohonynt yn peri gofid parthed diogelwch. Mae'r codau BB dal yn weithredol:

spotify / vimeo / YT /mp3