Tudalen 1 o 1

"Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Llun 27 Ebr 2009 2:08 pm
gan CreyrGlas
Helo!
Wrthi'n trio neud bach o waith ymchwil, a'n methu'n lan ffeindio copi Saesneg o'r araith "Tynged yr Iaith" gan Saunders Lewis... Digon o gopiau Cymraeg arlein, ond dim ond synopsis bach ar wici sydd yn Saesneg....

Unrhywun yn gallu helpu? ebostio copi, neu 'nghyfeirio at wefan?
Diolch :D

Re: "Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Llun 27 Ebr 2009 6:06 pm
gan Kez
Mae'n rhyfedd bod dim byd i weld ar y we ond deuthum ar draws hyn:

Tynged yr Iaith also appeared in English translation in Planet, number 4,...


Dyma'r manylion am y cylchgrawn Planet:

Sut i gysylltu â Planet

Planet
Blwch Post 44
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3ZZ

Ffôn: 01970-611255
Ffacs: 01970-611197

E-bost: planet.enquiries at planetmagazine.org.uk

Pob lwc a gwd nawr

Re: "Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Llun 27 Ebr 2009 7:42 pm
gan dawncyfarwydd
cyfieithiad gan gruffydd aled williams ar dud 127 o Presenting Saunders Lewis

Re: "Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 9:11 pm
gan CreyrGlas
Diolch yn fawr! Wedi llwyddo i gael copi...ddim mor dda a'r fersiwn Gymraeg mae'n rhaid gweud! (Nid mod i'n disgwyl y bydde fe!)

Re: "Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 6:56 am
gan dghughes82
Hefyd, mae'n ar gael yma nawr : http://pentalarpedia.com/wici/Fate_of_t ... ders_Lewis

(Tipyn bach yn hwyr, rwy'n gwybod)

Re: "Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 12:27 pm
gan C++
Dw i wedi trwsio'r fformatio hefyd. Mwynha. Angen mwy o stwff clasur. Mae sganwyr yn rhad dyddiau 'ma!

Re: "Tynged yr Iaith" yn Saesneg???

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 12:27 pm
gan C++
Delwedd