Tudalen 1 o 1

isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 5:16 pm
gan asuka
sa i moyn bod yn gas am ben boi 'ma (wi'n gwbod bot nghymrâg i'n ddigon doji), ond mae'n debyg taw dyma'r enghraifft gwîtha o gyfieithu awtomatig wi wedi dod ar ei thraws eriôd.

catshi, ddo: "cỳ cỳ alw rangers..."

[ON: wedi newid fy meddwl - mae popeth am y fideo 'na jest yn wych]

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 7:15 pm
gan sian
Gymrodd hi dipyn i fi sylweddoli beth oedd yr "alw"!
Whare teg iddo fe :lol:

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 10:20 pm
gan Chickenfoot
Son am gyfieithu gwael, 'roedd pennawd am garfan pel droed Cymru yn y Drych Dyddiol oedd f fod yn drosiad o "The Kids Are Alright"- "Y'r fynnod o'r gorrau" oedd ymdrech y Mirror. :|

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 10:32 pm
gan Hazel
Wrth gwrs. "kid" (goat), n, myn gafr (nm, mynnod gafr)

"Kid" yw gafr fach. Fyddai ein hathrawon ddim yn caniatáu "kid" am "blentyn".
byth. :winc:

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Sad 05 Medi 2009 5:48 pm
gan asuka
Chickenfoot a ddywedodd:Son am gyfieithu gwael, 'roedd pennawd am garfan pel droed Cymru yn y Drych Dyddiol oedd f fod yn drosiad o "The Kids Are Alright"- "Y'r fynnod o'r gorrau" oedd ymdrech y Mirror. :|
na! na?!
sa i'n deall o gwbwl - ma na ddigon o bobol o gwmpas, sen'n meddwl, fydde'n folon cywiro sut bethau am beint, neu jest am y sbort o gâl gweld eu pennawd yn y papur. heb sôn am yr ŵdls o gyfeithwyr proffesiynol.

hazel, ti'm yn lico "kids"? be chi'n galw nhw lawr fan'na? "chillun"? :D

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Sad 05 Medi 2009 6:24 pm
gan Hazel
Dim ond "children", asuka; dim ond "children". Pan cafodd rywbeth ei drilio i mewn i rhywun drwy'ch plentyndod , nid ydych yn anghofio. Mae hi''n yr un efo "cops". Mae'n gas gen i'r gair "cops". :ing:

Gyda law, roeddwn i'n dysgu hynny "i fyny fan'na" yn Indiana. :)

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Sad 05 Medi 2009 7:35 pm
gan asuka
indiana. wel, mae hyn'na'n esbonio popeth, sbo. does ryfedd bo dy saesneg di mor bur. :)
pan own i'n byw yn baltimore, "younguns" o'dd y gair am blantos wrth gwrs.
beth arall?
"ole lady" = "gwraig". na iaith americanaidd go dda iti.

Re: isafbwynt cyfieithu peiriannol?

PostioPostiwyd: Sad 05 Medi 2009 7:55 pm
gan Hazel
:lol: