Tudalen 1 o 1

Ynganu

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 9:58 am
gan Muralitharan
A oes yna ragor o hen begors blin fel fi sy'n gwylltio gyda'r ffordd y mae nifer fawr iawn o'n darlledwyr ni - y rhai ifanc yn benna', ond nid yn unig - yn ynganu geiriau ac enwau Saesneg. Erbyn hyn, does dim y ffasiwn le â Byrmingham yn bod mae'n amlwg, dim ond Bymingam. Yn wir, waeth i mi wrando ar 5Live ar y Sadwrn ddim, os ydw i am glywed hanes Bynli ac Aasnyl a Bônmyth.

A neithiwr ar S4C fe glywais i Heledd Cynwal (dwi'n meddwl) yn sôn am Bylin - fel tae Berlin yn enw Saesneg!!

Re: Ynganu

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 11:09 am
gan sian
Meic Povey'n codi'r un mater yn Barn.
'Meddai Menna Baines:
"Mae'n cyfaddef bod un peth yn bryder mawr iddo yng nghyswllt actio. Mae'n mynd yn gynyddol anoddach, meddai, i gael hyd i actorion Cymraeg sy'n abl i lefaru'r ddeialog y mae'n chwysu cymaint uwch ei phen gan fod cynifer o actorion Cymraeg heddiw heb y cefndir a'r adnoddau ieithyddol i wneud hynny."'

Ond wedyn, os ydi e'n sgrifennu am Eifionydd yn y 50au, efallai nad yw'n syndod bod actorion ifanc 'heb y cefndir a'r adnoddau ieithyddol i wneud hynny'.

Dw i'n meddwl mai Wil Sam ddywedodd yn gymharol ddiweddar - "Os ydych chi mewn ystafell a'r teledu ymlaen yn yr ystafell nesaf, mae'n anodd gwbod ai Cymraeg 'ta Saesneg mae rhai o'r cyflwynwyr ifanc yn siarad" - hynny yw, dyw'r Gymraeg ddim yn swnio fel Cymraeg.

Re: Ynganu

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 10:08 pm
gan ap Dafydd
Muralitharan a ddywedodd:Bymingam.


Wel, pwy a wyr?

Re: Ynganu

PostioPostiwyd: Sul 11 Hyd 2009 5:53 pm
gan Mali
Mae'n rhy hwyr bellach bois bach ....mae'r ffordd hon o ymganu wedi cael ei dderbyn ! :P

Re: Ynganu

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 11:47 am
gan Muralitharan
Mali a ddywedodd:Mae'n rhy hwyr bellach bois bach ....mae'r ffordd hon o ymganu wedi cael ei dderbyn


Gan bwy?!

Re: Ynganu

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 5:35 pm
gan Mali
Muralitharan a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Mae'n rhy hwyr bellach bois bach ....mae'r ffordd hon o ymganu wedi cael ei dderbyn


Gan bwy?!


Neb yn benodol amwni , ond os ydy'r cyflwynwyr neu pwy bynnag yn cael rhyddid i ynganu fel hyn , wel mae'n rhaid ei fod wedi cael ei dderbyn gan rywun .

Re: Ynganu

PostioPostiwyd: Gwe 16 Hyd 2009 6:30 am
gan Gwenci Ddrwg
Symuda i Ganada. Dan ni'n ynghanu pob 'r' à l'ancienne. Rili hen fasiwn. Fel 1600 AD. Perffaith i 'hen begor' fel ti. 8)