Y Gymraeg Ysgrifenedig

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Gymraeg Ysgrifenedig

Postiogan Cardi Bach » Iau 06 Tach 2003 4:41 pm

Yn dilyn fy nghyfraniad i mewn edefyn arall, o'n i'n meddwl am y Gymraeg yn ysgrifenedig.

Mae e wastad yn y nghal i pan fo rhwun yn gweud e.e. "Siwd wyt ti'n sillafu Llanffestiniog? Ai L-L-A-N-F-F-E-S-T-I-N-I-O-G?"

a fi wastad yn gweud:

"NA: LL-A-N-FF-E-S-T-I-N-I-O-G"

a ma nhw'n gweud

"Un eff neu dwy eff" a finne "un eff Gymraeg", a nhw "un el neu dwy el" a finne "dim un 'el' ond un 'ell'".

:drwg:

Mae'n y nghynddeiriogi i.

Iaith Geltedd yw'r Gymrag sydd yn cael ei sgwennu mewn sgrifen lladin. Wrth gwrs dos dim 'll' ayb yn y lladin ac felly ma'n rhaid 'creu' llythyren ysgrifenedig newydd, ond un llythyren yw hi o hyd!

Odd na ymgyrch ar y gweill sbel yn ol i ail-lunio'r wyddor Gymrag.
Pam ddim eto?
Fy hun, i fi ddim yn sgwennu 'dd' ar bapur, ond yn hytrach 'dd' Groegaidd, sef 'd' gyda bachyn ar y top. Pam ddim mabwysiadu llythrennau ysgrifenedig eraill o'r Groegaidd i gynrychioli 'llythrennau' nad sydd gan y Lladin?

Beth am

A, B, C, X, (Ch), D, Z (Dd), E...ayb?

Beth ma eraill yn meddwl?
Allwn ni ddechre chwyldro ysgrifen fan hyn ar Maes-B :crechwen: ?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan nicdafis » Iau 06 Tach 2003 9:49 pm

Ddim yn debyg, ond croesi i ti drial ;-)

Unrhywun sy'n cofio'r cylchgrawn 'trendi" (ddim yn cofio'r enw) oedd yn defnyddio ffontiau gyda symbolau newydd ar gyfer yr ch, dd, ng, ll, rh a th?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Cymraeg Ysgrifenedig

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Iau 13 Tach 2003 9:50 am

Dwi'n meddwl roedd e'n arferol am gyfnod (ganrifoedd yn ol)i ddefnyddio x yn lle ch, ond dwi ddim yn meddwl fod angen dadwneud yr holl waith a wnaethpwyd i safoni orgraff yr iaith.
Yn y Gramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd gan Gruffudd Robert ym Milan yn 1567 roedd e'n gosod .dot o dan lythyren i'w dyblu, e.e

d gyda .dot o dani = dd, l gyda .dot o dani = ll, u gyda .dot o dani = w.

Rydw i wrth fy modd yn darllen hen destynau Cymraeg Canol oherwydd yr her o geisio dehongli'r orgraff, er nad ydw i bob amser yn gallu gwneud synnwyr o bopeth.
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Postiogan nicdafis » Iau 13 Tach 2003 5:10 pm

Mae gan Islandeg sawl llythyren a fyddai'n ddefnyddiol i ni, ond dw i ddim yn gwybod a fydden nhw'n gweithio ar y maes.

Mae ð yn Islandeg yn gyfystyr i'n "dd" ni, a'u Þ fel ein "th", am wn i. Sdim byd 'da nhw fel yr "ch", "ll" a "rh" (eto, am wn i).

Dw i wedi copio a gludo'r llythyrennau uchod o'r <a href="http://www.baggalutur.is/">weflog hon</a>, gyda'r llaw.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Llun 17 Tach 2003 12:28 pm

Roedd rhai o ysgolheigion Cymraeg y dadeni dysg yn ysgrifennu

dh am dd , a lh am ll
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Postiogan branwen llewellyn » Mer 19 Tach 2003 7:58 pm

dwi'n ama ddylsa ni neud hyn, jesty i fi gal gweld gwynebau'r plant yn Ysgol y Berwyn! o mi fydd na hwyl i gael bois bach!
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Postiogan Chris Castle » Iau 05 Chw 2004 12:10 pm

Delwedd
ydy'r Ll - "Belted l" neu voicless alveolar lateral fricative yn saesneg - yn ôl Harry Campbell a'r IPA (International Phonetics Alphabet)

Mae cynigion Nic am y lleill yn iawn hyd y gwn i. Pryd mae amser 'da fi byddaf yn trio dod o hyd beth yw'r Ch ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Mr Gasyth » Iau 05 Chw 2004 2:08 pm

'CH' yn y wyddor ffonetig ydi 'x' dwi'n meddwl.
ddim yn siwr am y lleill.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan nicdafis » Iau 05 Chw 2004 4:23 pm

Nid 'x' ond 'χ' (ddim yn siwr os bydd hwnna yn ymddangos yn iawn). <i>Voiceless uvular fricative ("chi") </i> yn ôl y wefan IPA 'na. Diolch Chris ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron