Yn dilyn fy nghyfraniad i mewn edefyn arall, o'n i'n meddwl am y Gymraeg yn ysgrifenedig.
Mae e wastad yn y nghal i pan fo rhwun yn gweud e.e. "Siwd wyt ti'n sillafu Llanffestiniog? Ai L-L-A-N-F-F-E-S-T-I-N-I-O-G?"
a fi wastad yn gweud:
"NA: LL-A-N-FF-E-S-T-I-N-I-O-G"
a ma nhw'n gweud
"Un eff neu dwy eff" a finne "un eff Gymraeg", a nhw "un el neu dwy el" a finne "dim un 'el' ond un 'ell'".
Mae'n y nghynddeiriogi i.
Iaith Geltedd yw'r Gymrag sydd yn cael ei sgwennu mewn sgrifen lladin. Wrth gwrs dos dim 'll' ayb yn y lladin ac felly ma'n rhaid 'creu' llythyren ysgrifenedig newydd, ond un llythyren yw hi o hyd!
Odd na ymgyrch ar y gweill sbel yn ol i ail-lunio'r wyddor Gymrag.
Pam ddim eto?
Fy hun, i fi ddim yn sgwennu 'dd' ar bapur, ond yn hytrach 'dd' Groegaidd, sef 'd' gyda bachyn ar y top. Pam ddim mabwysiadu llythrennau ysgrifenedig eraill o'r Groegaidd i gynrychioli 'llythrennau' nad sydd gan y Lladin?
Beth am
A, B, C, X, (Ch), D, Z (Dd), E...ayb?
Beth ma eraill yn meddwl?
Allwn ni ddechre chwyldro ysgrifen fan hyn ar Maes-B ?