Mae yna ryw drend ar y Maes i rili cymreigio geiriau saesneg.
Nid yn unig mae pobl yn newid ei sillafiad i well siwtio ein acenion Cymraeg ni, ond hefyd yn ei treiglo.
Dwi'n ffeindio hyn yn reit ddiddorol. Pam ein bod ni'n gwneud hyn? Ydi Sasneg wir yn distrwio ein cymraeg ta ydan ni'n cymeryd geiriau sasneg ac yn sugno nhw, fel ryw fath o amoeba llwglyd, mewn i'n iaith ni ein hunain?