Tudalen 1 o 1

Canu Hen Saesneg

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 2:03 am
gan Marwolaeth
Mi wyliais i y fersiwn hir o'r Two Towers heddiw.

I unrhyw un sy'n hoff o gerddi yn y hen saesneg, ar un pwynt mae un o'r cymeriadau yn canu can ynddo...

'Bealocwelm hafað fela feorhcynna forð onsended' yw'r lein cyntaf, a dw i yn ei gyfiaethu mewn i'r gymraeg fel 'Mae marwolaeth wedi gyrru llawer o'm teulu draw...'

Mae'r union linell yma yn Beowulf (2265). Wedi darganfod ychydig yn y ffilmiau yma sydd wir wedi fy nharo fi fel arbennig, mae clywed merch yn canu mewn iaith hen farw wedi fy nghydio i rywfaint.

Bealocwealm hafað fréone frecan forth onsended
giedd sculon singan gléomenn sorgiende on Meduselde...

Mi fyswn i'n cyfiethu rhein fel 'Mae marwolaeth drwg wedi gyrru ymlaen y rhyfelwr da, a mi fydd y barddonwyr trist yn Meduseld yn canu can...'

Gyda ychydig o sioc rydw i yn sylwi bod Tolkien wedi dwyn enw Meduseld yn syth o Beowulf. Dw i ddim yn siwr am y darn 'Bealocwealm hafað fréone frecan forth onsended'. Dydw i ddim mor ddrwg a hynny.

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 2:36 pm
gan nicdafis
Does dim Hen Saesneg yn <i>llyfrau</i> LOTR, ond oedd Tolkien yn ddigon cyfarwydd â hi, wrth gwrs. Pwy sy'n canu'r gân yn y ffilm? Hynny yw, pa iaith ydy hi <i>fod</i> i sefyll drosti?

Y ffordd mae Jackson wedi handlo'r ieithoedd yn y ffilmiau yw'r un o'r pethau bach dw i ddim yn eu lico amdanyn nhw, er mod i'n eu joio nhw mas draw ar y cyfan.

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 3:27 pm
gan Owain Llwyd
nicdafis a ddywedodd:Does dim Hen Saesneg yn <i>llyfrau</i> LOTR, ond oedd Tolkien yn ddigon cyfarwydd â hi, wrth gwrs. Pwy sy'n canu'r gân yn y ffilm? Hynny yw, pa iaith ydy hi <i>fod</i> i sefyll drosti?

Y ffordd mae Jackson wedi handlo'r ieithoedd yn y ffilmiau yw'r un o'r pethau bach dw i ddim yn eu lico amdanyn nhw, er mod i'n eu joio nhw mas draw ar y cyfan.


Eowyn sy'n canu'r farwnad yn y ffilm. Mi ges i fod llais Miranda Otto yn drawiadol iawn.

Mae'na ryw fymryn o Hen Saesneg yma a thraw yn y llyfr. Mae'r rhestr yma yn mynd ar ol manylion. Hefyd, yn ol dw i'n ei ddallt, mae Saruman yn golygu 'dyn cyfrwys' mewn Hen Saesneg.

Ynghylch Hen Saesneg a Rohirric a ddywedodd: We don't know much genuine Rohirric, for in LotR, Tolkien rendered it by Old English: He tried to reproduce for English readers its archaic flavour in relationship to the Common Speech (itself represented by modern English - but it must be understood that Rohirric was not the ancestor of the Common Speech the way Old English is of modern English). Thus, names like Éomer and phrases like ferthu Théoden hál are not transcriptions of the actual words used back in the Third Age.

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 4:00 pm
gan nicdafis
Wel, do'n i ddim yn gwybod hynny. Diolch Owain.

Y peth mwya oedd yn fy moddran i yn y ffilm oedd y ffaith bod Saesneg gyda lot o ddotiau bach (acenion Elfeg) wedi'i defnyddio ar fapiau ac ati. Dw i ddim yn gwybod pam byddai hyn yn fy nharo mwy na'r ffaith bod pawb yn <i>siarad</i> Saesneg, ond na fe.

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 4:48 pm
gan Macsen
Mae yr Rohirrim i fod fel y bois yn Beowulf, ond gyda mwy o geffylau. Bach yn od efallai canu yn hen saesneg mewn ffilm sydd i fod wedi ei gynnal ryw 5000 b.c., ond dyw'r ffaith bod pawb yn y ffilm yn siarad saesneg perffaith ddim yn gwneud llawer o sens chwaith.

Yn bersonnol, roeddwn i yn hoffi'r gan.