Mi wyliais i y fersiwn hir o'r Two Towers heddiw.
I unrhyw un sy'n hoff o gerddi yn y hen saesneg, ar un pwynt mae un o'r cymeriadau yn canu can ynddo...
'Bealocwelm hafað fela feorhcynna forð onsended' yw'r lein cyntaf, a dw i yn ei gyfiaethu mewn i'r gymraeg fel 'Mae marwolaeth wedi gyrru llawer o'm teulu draw...'
Mae'r union linell yma yn Beowulf (2265). Wedi darganfod ychydig yn y ffilmiau yma sydd wir wedi fy nharo fi fel arbennig, mae clywed merch yn canu mewn iaith hen farw wedi fy nghydio i rywfaint.
Bealocwealm hafað fréone frecan forth onsended
giedd sculon singan gléomenn sorgiende on Meduselde...
Mi fyswn i'n cyfiethu rhein fel 'Mae marwolaeth drwg wedi gyrru ymlaen y rhyfelwr da, a mi fydd y barddonwyr trist yn Meduseld yn canu can...'
Gyda ychydig o sioc rydw i yn sylwi bod Tolkien wedi dwyn enw Meduseld yn syth o Beowulf. Dw i ddim yn siwr am y darn 'Bealocwealm hafað fréone frecan forth onsended'. Dydw i ddim mor ddrwg a hynny.