Dim gair Cymraeg am air 'Saesneg'

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dim gair Cymraeg am air 'Saesneg'

Postiogan Geraint » Llun 24 Tach 2003 5:33 pm

Oes rhywun fel fi yn cael digon o bobl yn dweud fod rhywbeth yn bod da'r iath Gymraeg am nad oes na air cyfatebol i un Saesneg? Ac yn waeth na hyn, pan ma nhw yn defnyddio gair nad yw'n wreiddiol o'r Saesneg?

e.e. Clywes i rhywun yn synnu am nad oes gair Cymraeg am "Tortoise", am fod Crwban yn golygu Tortoise a Turtle.

Hold on boi! O le ma'r geiriau 'Turtle' a 'Tortoise'yn dod o? Lladin! Mae'r gair crwban yn siwr efo tarddiad hen iawn, ac mae galw anifail tebyg yn grwban y mor yn neud sens. Faint o grwbanod y mor oedd ar gyfil arfordir Cymru amser maeth yn ol? A lle ma gair newydd ddod dod o, does na ddim prif gair-feistr i enwi popeth i ni :x

Faint o weithiau ma rhywun wedi dweud wrthoch nad oes na air Cymraeg am helicopter? HOFRENNYDD!

Be sy'n bod ar wneud fyny gair modern yn gymraeg, neu defnyddio un iaith arall, neu addasu un iaith arall? Esblygiad yw e, un o'r pethau mae y iaith Saesneg mor gryf efo, yn gallu cymryd mewn geiriau o bob math o ieithoedd, a pawb yn cymryd yn ganiataol mae gair 'naturiol' ydi o.

Dwi'm yn siwr be di pwynt yr efedyn ma pellach,ond dwi'n teimlo'n well nawr
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Marwolaeth » Llun 24 Tach 2003 7:04 pm

Beth ydi'r gair cymraeg am 'indifference?'
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan Aran » Llun 24 Tach 2003 8:46 pm

Marwolaeth a ddywedodd:Beth ydi'r gair cymraeg am 'indifference?'


bedyrotsrwydd...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Geraint » Llun 24 Tach 2003 9:43 pm

Ahem, ie, wel ma na foi yn fy swyddfa sy'n hala fi'n wyllt yn deud y fath pethau......................................(ai nol fy nghot)


















(ta ta)
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cardi Bach » Maw 25 Tach 2003 10:21 am

Cliches ond, beth yw'r gire Sisneg am Hiraeth, Cawl...ayb (ffili cofio rhagor nawr :wps: )

y pwynt yw, anwybydda nhw. ma rhai pobol jest yn lico timlo'n well ac yn uwch na ti - ma'n rhaid bod y boi yn dy swyddfa di gyda tship ar i ysgwdd e, a'n eiddigeddus bo ti'n galler siarad yr iaith.

Gwed wrth y snichyn y tro nesa mae e'n sgwennu sisneg i ddim ond defnyddio gire eingl-sacsonaidd, neu normanaidd- un neu'r llall - yn eu sillafiadau gwreiddiol. eith e ddim yn bell iawn, nai waranti ti.

Na un o owdidowgrwyddau iaith yw'r gallu i esblygu a benthyg, a bathu gire newy.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Tach 2003 10:28 am

Marwolaeth a ddywedodd:Beth ydi'r gair cymraeg am 'indifference?'


Difaterwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Aran » Maw 25 Tach 2003 10:56 am

Geraint a ddywedodd:Ahem, ie, wel ma na foi yn fy swyddfa sy'n hala fi'n wyllt yn deud y fath pethau


wps... sori, do'n i ddim am gyd-fynd efo marwolaeth ynglyn â dy neges, jesd isio teipio bedyrotsrwydd... :winc:

dw i'n cytuno'n llwyr efo chdi - mae'n anochel i ieithoedd bod efo geiriau sydd ddim yn gyfatebol i eiriau mewn ieithoedd eraill, ac mae unrhywun sy'n deud bod 'na unrhywbath yn bod efo'r iaith Gymraeg yn siarad trwy'r het mwyaf posib yn y byd...

dw i'm yn meddwl bod 'na air Saesneg am pajamas... neu bungalow... neu alcohol... neu algebra...

neu zvakanaka... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 25 Tach 2003 12:09 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Marwolaeth a ddywedodd:Beth ydi'r gair cymraeg am 'indifference?'


Difaterwch?


Seren ffycin aur, Garnet! :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Nick Urse » Iau 11 Rhag 2003 9:47 pm

'Problem'

Na, dydi traffarth, helynt a.y.b. ddim yn gyfystyr a 'problem', achos y gwir amdani ydi nad odd gynnon ni broblam tan i'r sais ddangos 'i hen wep :drwg:
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn
Rhithffurf defnyddiwr
Nick Urse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 78
Ymunwyd: Sul 21 Medi 2003 8:00 pm

Postiogan Chwadan » Iau 11 Rhag 2003 10:40 pm

Panad. Di "cuppa" im run fath o gwbwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron