Oes rhywun fel fi yn cael digon o bobl yn dweud fod rhywbeth yn bod da'r iath Gymraeg am nad oes na air cyfatebol i un Saesneg? Ac yn waeth na hyn, pan ma nhw yn defnyddio gair nad yw'n wreiddiol o'r Saesneg?
e.e. Clywes i rhywun yn synnu am nad oes gair Cymraeg am "Tortoise", am fod Crwban yn golygu Tortoise a Turtle.
Hold on boi! O le ma'r geiriau 'Turtle' a 'Tortoise'yn dod o? Lladin! Mae'r gair crwban yn siwr efo tarddiad hen iawn, ac mae galw anifail tebyg yn grwban y mor yn neud sens. Faint o grwbanod y mor oedd ar gyfil arfordir Cymru amser maeth yn ol? A lle ma gair newydd ddod dod o, does na ddim prif gair-feistr i enwi popeth i ni
Faint o weithiau ma rhywun wedi dweud wrthoch nad oes na air Cymraeg am helicopter? HOFRENNYDD!
Be sy'n bod ar wneud fyny gair modern yn gymraeg, neu defnyddio un iaith arall, neu addasu un iaith arall? Esblygiad yw e, un o'r pethau mae y iaith Saesneg mor gryf efo, yn gallu cymryd mewn geiriau o bob math o ieithoedd, a pawb yn cymryd yn ganiataol mae gair 'naturiol' ydi o.
Dwi'm yn siwr be di pwynt yr efedyn ma pellach,ond dwi'n teimlo'n well nawr