Y Maes yn cael Effaith Drwg Arnaf Fi!

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Maes yn cael Effaith Drwg Arnaf Fi!

Postiogan Macsen » Maw 25 Tach 2003 2:54 am

Grrrrrr... :drwg:

Dw i'n ysgrifennu yn lot gwell yn y Seasneg nag yn y Gymraeg. Mae'n un o fy mhrif dalention i. Dw i wir yn stryglo i roi beth sy yn fy meddwl i lawr ar bapur yn y gymraeg. Ond heddiw, am y tro cyntaf, mi roeddwn i'n gallu meddwl am air cymraeg heb fedru cofio y cyfieithiad saesneg. Dw i'n teimlo ffordd arall rownd bron bob dydd.

Dwi'n beio'r Maes. Dw i ddim ond a'r gallu i siarad un iaith (cymraeg) a ysgrifennu yn y llall (saesneg) ar y tro, felly os mae hyn yn cario mlaen waeth i fi roi sws ta ta i unrhyw fath o yrfa sy'n fy nisgwyl i.

Diben, diben diben.......... :drwg: :drwg: :drwg: :drwg:

Mi wela i Maes-E yn y cwrt!

... objective? Hmmmm.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan mred » Sad 13 Rhag 2003 3:12 pm

Cyfieithu fydda'i yn ei neud, hynny o waith fydda'i'n ei gael beth bynnag. Does dim amheuaeth bod ymwybyddiaeth o gystrawen Saesneg ayb. yn tyfu o orfod cyfieithu yn rheolaidd. Dwi'n ei chael hi'n anodd defnyddio cywair llai ffurfiol ar gyfer Maes-E - mae'n debyg bod llawer o'r hyn fydda'i'n ei sgwennu'n swnio fatha taflen wleidyddol o'r herwydd.

Mi fues i erioed efo diddordeb mewn hanes lleol, ac felly wedi darllen llawer ar bethau fatha llyfrau hanes methodistaidd (llawer o bethau hynod ddiddorol am arferion cefn gwlad, cymeriadau hynod, dewiniaid ayb. ynddynt, yn groes i'r disgwyl ella). Meddwl ella bod darllen deunydd felma - ac ella darllen Cymraeg rywiog (ffurfiol a lled-lafar) yn gyffredinol - yn gwella Cymraeg ysgrifenedig. Darllena nofelau Kate Roberts, T. Rowland Hughes, Daniel Owen, Islwyn Ffowc, Elenna Puw Morgan ayb., dyma fyddai fy nghyngor i. Ac osgoi gwylio S4C! :winc:
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dylan » Iau 18 Rhag 2003 4:03 am

Ifan, mae geiriadur ar-lein Prifysgol Llanbedr PS yn eithaf handi pan ti'n chwilio am y gair Cymraeg (neu'r ffordd arall rownd)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai