Grrrrrr...
Dw i'n ysgrifennu yn lot gwell yn y Seasneg nag yn y Gymraeg. Mae'n un o fy mhrif dalention i. Dw i wir yn stryglo i roi beth sy yn fy meddwl i lawr ar bapur yn y gymraeg. Ond heddiw, am y tro cyntaf, mi roeddwn i'n gallu meddwl am air cymraeg heb fedru cofio y cyfieithiad saesneg. Dw i'n teimlo ffordd arall rownd bron bob dydd.
Dwi'n beio'r Maes. Dw i ddim ond a'r gallu i siarad un iaith (cymraeg) a ysgrifennu yn y llall (saesneg) ar y tro, felly os mae hyn yn cario mlaen waeth i fi roi sws ta ta i unrhyw fath o yrfa sy'n fy nisgwyl i.
Diben, diben diben..........
Mi wela i Maes-E yn y cwrt!
... objective? Hmmmm.