Tudalen 1 o 5

Gire Cymrag sydd heb gyfieithiad

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 10:25 am
gan Cardi Bach
Yn dilyn edefyn Geraint, faint o eirie Cymrag allwn ni feddwl am sydd heb gyfieithiad oleia i'r Sisneg, os nad yn hollol unigryw i'r Gymrag?

Beth am :

Cawl (na dyw 'broth' neu 'soup' ddim yr un peth)
Hiraeth (eto, dyw 'longing' ddim yr un peth)

Shabwcho? :D

Re: Gire Cymrag sydd heb gyfieithiad

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 6:31 pm
gan Piso Afanc
Cardi Bach a ddywedodd:Cawl (na dyw 'broth' neu 'soup' ddim yr un peth)


PAM? Be ddiawl di cawl ond 'soup'? Os nid cawl ydi 'soup' yna be ddiawl di 'soup' yn y Gymraeg? Os ti am ddechra malu cachu am lobsgows efo fi wan, waja losgi achos dwi newydd gal y ddadl yma efo fy mos i yn gwaith. Be os ti ffansi 'tomato soup' a chditha'n sal yn dy wely 'fo ffliw? Ti am ddeud 'cawl tomato' fatha pawb call ta dechra rwdlian am rwdins a thatws a moron a stoc cartra? ... Dwi'n ama mod i 'di dechra'i cholli hi ynghanol y lobsgows geiria ma ac wedi mwydro fy hun yn y prosesydd ... Am wni mai be dwi isio'i ddeud ydi mod i wedi cal llond fy nghabajan o Saeson yn haeru mai cawl ydi lobsgows. NACI go damia. Cawl ydi cawl ydi 'soup' y Sais. Lobsgows ydi Lobsgows. Gadwch hi fanna.

Cardi Bach a ddywedodd:Hiraeth (eto, dyw 'longing' ddim yr un peth)


cytuno efo chdi fanna :winc:

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 12:07 am
gan Geraint
Wedi bod yn meddwl am eiriau trwy'r dydd heb lawer o lwyddiant

Derwydd? Ma nhw'n defnyddio Druid.
Bardd yn yr yn modd.
Cromlech
Pengwin :winc:
Medd


Ma rhain fwy fel geiriau ma saesneg wedi cymryd o'r Gymraeg.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 9:39 am
gan Llewpart
Be am " GIRE" ? oes translation i wnw?

Re: Gire Cymrag sydd heb gyfieithiad

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 1:25 pm
gan Cardi Bach
Piso Afanc a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Cawl (na dyw 'broth' neu 'soup' ddim yr un peth)


PAM? Be ddiawl di cawl ond 'soup'? Os nid cawl ydi 'soup' yna be ddiawl di 'soup' yn y Gymraeg? Os ti am ddechra malu cachu am lobsgows efo fi wan, waja losgi achos dwi newydd gal y ddadl yma efo fy mos i yn gwaith. Be os ti ffansi 'tomato soup' a chditha'n sal yn dy wely 'fo ffliw? Ti am ddeud 'cawl tomato' fatha pawb call ta dechra rwdlian am rwdins a thatws a moron a stoc cartra? ... Dwi'n ama mod i 'di dechra'i cholli hi ynghanol y lobsgows geiria ma ac wedi mwydro fy hun yn y prosesydd ... Am wni mai be dwi isio'i ddeud ydi mod i wedi cal llond fy nghabajan o Saeson yn haeru mai cawl ydi lobsgows. NACI go damia. Cawl ydi cawl ydi 'soup' y Sais. Lobsgows ydi Lobsgows. Gadwch hi fanna.

Cardi Bach a ddywedodd:Hiraeth (eto, dyw 'longing' ddim yr un peth)


cytuno efo chdi fanna :winc:


Cawl yw cawl.
Berwi asgwrn, a ychwanegu llysie wedyn...a blawd os oes raid. Ond cawl yw hyn. Dim 'soup'. Soup yw Soup. Odd dim swps gyda'r Cymry flynydde nol :winc:

Math arbennig o fwyd nad odd y Sacsonied na'r Normanied yn neud odd cawl, felly nethon nhw ddim fathu term ar ei gyfer e.

so fe'n edrych felse ni'n cal lot o lwc :wps:

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 2:01 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Cytuno'n llwyr a ti, Cardi. Cawson ni drafodeth fan hyn yn ddiweddar, lle ro'n i'n cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, a chafwyd enghraifft o 'cawl'. Penderfynes i ddefnyddio 'broth' yn y pen draw, ond cafwyd trafodaeth am tua deng munud yn trafod rhinweddau 'broth' a 'soup'! Pan o'n i'n fach, ro'n i wastad yn galw cawl yn cawl, ond wedyn roedd stwff o'ch chi'n cael mas o din yn 'soup'.

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 2:12 pm
gan Geraint
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:wastad yn galw cawl yn cawl, ond wedyn roedd stwff o'ch chi'n cael mas o din yn 'soup'.


A fi.

PostioPostiwyd: Sad 29 Tach 2003 5:53 pm
gan Madrwyddygryf
Beth am Sionc

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 4:20 am
gan Dylan
'Paned' (© Chwadan)

'Bendramwnwgl' (un o'r geiriau gorau erioed mewn unrhyw iaith dybiwn i)

'Bwrlwm' neu 'byrlymu'? ('Tydi 'gurgle' neu 'gurgling' ddim yn fy argyhoeddi i)

ac wrth gwrs pethau barddol megis 'cynghanedd', 'eisteddfod', 'cywydd', 'awdl', 'englyn' ayyb

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 4:22 am
gan Dylan
'Sionc' fyddai 'lively' neu 'vivacious' am wn i. Er bod 'sionc' yn lot gwell.