Beth am :
Cawl (na dyw 'broth' neu 'soup' ddim yr un peth)
Hiraeth (eto, dyw 'longing' ddim yr un peth)
Shabwcho?
Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Cardi Bach a ddywedodd:Cawl (na dyw 'broth' neu 'soup' ddim yr un peth)
Cardi Bach a ddywedodd:Hiraeth (eto, dyw 'longing' ddim yr un peth)


Piso Afanc a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Cawl (na dyw 'broth' neu 'soup' ddim yr un peth)
PAM? Be ddiawl di cawl ond 'soup'? Os nid cawl ydi 'soup' yna be ddiawl di 'soup' yn y Gymraeg? Os ti am ddechra malu cachu am lobsgows efo fi wan, waja losgi achos dwi newydd gal y ddadl yma efo fy mos i yn gwaith. Be os ti ffansi 'tomato soup' a chditha'n sal yn dy wely 'fo ffliw? Ti am ddeud 'cawl tomato' fatha pawb call ta dechra rwdlian am rwdins a thatws a moron a stoc cartra? ... Dwi'n ama mod i 'di dechra'i cholli hi ynghanol y lobsgows geiria ma ac wedi mwydro fy hun yn y prosesydd ... Am wni mai be dwi isio'i ddeud ydi mod i wedi cal llond fy nghabajan o Saeson yn haeru mai cawl ydi lobsgows. NACI go damia. Cawl ydi cawl ydi 'soup' y Sais. Lobsgows ydi Lobsgows. Gadwch hi fanna.Cardi Bach a ddywedodd:Hiraeth (eto, dyw 'longing' ddim yr un peth)
cytuno efo chdi fanna



Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai