Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 3:38 am
gan garynysmon
Garnet Bowen a ddywedodd:
Vavi a ddywedodd:Mwydro, o'n i'n arfer meddwl bo moidering yn air seasneg go iawn tan fi fynd i fyw i Loegr a trio defnyddio fo! Ond nes i addysgu'n ffrindiau i ddefnyddio'r gair.



Ha! dwi di sylwi hynny hefyd.
Roeddwn yn gweithio mewn warws ym Mhorthaethwy dros yr haf, a roeddwn yn sylwi fod y gair yn cael ei ddefnyddio gan bawb yna. Eto i gyd roedd y rhai di-Gymraeg (sef y mwyafrif helaeth o'r gweithwyr) i gyd yn eitha dismissive o'r Gymraeg ar y cyfan. Rhyfedd ynde :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 11:33 am
gan Panom Yeerum
Chwadan a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
cymro1170 a ddywedodd:Beth am Bwydlen?

erm ... menu?


Chwara teg, gair Ffrengig ydi menu :P
Yn yr un modd cig eidion, porc a.y.b ffrengig ydy pob gair saesneg am gig

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 1:59 pm
gan Ramirez
Geraint a ddywedodd:Be di cyfiethiad Sglyfath?


Scluvathe?

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 6:39 pm
gan bartiddu
Beth yw 'Wanker' yn gymraeg? ( dim atebion hefo enwau personol os gwelwch yn dda! :D )
A hefyd 'Sperm' neu 'Spunk'? (dyw 'had' ddim yn trosglwyddo'n iawn yn fy marn i)
A 'Masturbation'
Wel ma angen gwybod y pethe 'ma ond oes e?! :D

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 6:42 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae 'na drafodaeth hir a dwys am 'halio' rhywle yng gnhrombil y Maes, ond sai'n gallu ffwdanu whilo amdano fe. Ro'n i a'n ffrindie wastad yn defnyddio 'onanu' yn 'rysgol, ond mae hynna braidd yn feiblaidd (ar ol stori Onan yn Genesis[?]).

Ddim yn siwr am sberm... hufen? :?

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 9:23 pm
gan Leusa
masturbatio - hunanleddfu

wanker - haliwr / mwdwlwasgwr?!

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 9:31 pm
gan bartiddu
Leusa a ddywedodd:masturbatio - hunanleddfu

wanker - haliwr / mwdwlwasgwr?!



Duw Duw!
Gair da yw'r 'mwdwlwasgwr' 'na! :D

PostioPostiwyd: Maw 13 Ebr 2004 11:14 am
gan Cardi Bach
Mi awgrymodd un aelod dyfeisgar mai 'Llaeth Lluosogi' oedd sbwnc.

PostioPostiwyd: Maw 13 Ebr 2004 2:45 pm
gan Chwadan
Cardi Bach a ddywedodd:sbwnc.

Mwahaha! Ma Cymreigeiddio(?) geiria yn gneud iddyn nhw swnio fil o weithia'n well :D

PostioPostiwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:24 pm
gan Dwlwen
cardi bach a ddywedodd:hiraeth

Nath rhywun gynnig nostalgia fel cyfieithad i fi unwaith - sai'n cytuno 100%, ond odd e'n ddyn clefar iawn...

Leusa a ddywedodd:masturbatio - hunanleddfu

wanker - haliwr / mwdwlwasgwr?!


neis. Beth am naddu neddyf/ naddwr neddyf? Mae'n fwy sarahus... no shit
O'n i'n meddwl rhoien i tro ar fod yn greadigol a hithau bron yn amser mynd adre, ond falle bo fi just yn rong