Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 1:23 pm
gan Gowpi
Beth am 'Hwyl' - dim o ran sbort / fun felly. Ishe dod a pheth 'hwyl' i fewn i rhywbeth - os chi'n deall beth s'da fi...?!

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 7:00 pm
gan bartiddu
Sdim gair mewn dim un iaith arall am Eisteddfod am wn i?

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 7:41 pm
gan Treforian
Gogoniant.

Tydi 'glory' ddim cweit yr un mor ogoneddus, ond does yna ddim byd yn swnio cystal yn iaith yr ymerodraeth brydeinig yn nagoes? :lol:

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 8:32 am
gan Miffi
Coc oen. Mae 'na demlad tu ol i alw rhywun yn hyn - na alla, yn fy marn i , gael ei gyfleu'n yr iaith fain.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 3:57 pm
gan Cwlcymro
"Coc oen" nesi feddwl am hefyd. Dydi 'Lamb's Cock' ddim efo'r un ring nadi!!

Be am 'mynadd' (Sgenai'm mynadd')
Dwi o hyd yn mynd yn sdyc wrth ddeud "I havn't got any .....um....mynadd" Dwi'n gwbod fod 'I'm not bothered' yn golygu yr un peth, ond ai bothered ydi mynnadd?

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:00 pm
gan Dwlwen
Cwlcymro a ddywedodd:"I havn't got any .....um....mynadd" Dwi'n gwbod fod 'I'm not bothered' yn golygu yr un peth, ond ai bothered ydi mynnadd?


umm, Patience

Gwbo'n iawn ffor ti'n teimlo tho :rolio: :winc:

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:08 pm
gan mam y mwnci
dwi wastad yn ca'l yn nal isho deud bod rwbath yn troi arnai , ac wedi dechrau efo ' that realy ....' cyn sylwi nad ydi turns on me yn gweithio. :wps:

fedrith rhywun esbonio i fi pam nad ydi longing run fath a hiraeth?

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:43 pm
gan Cwlcymro
dydi hyn ddim yn swnio'n iawn ddo

'You coming down the pub?'

'No not tonight, I havn't got any patience'!!

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:46 pm
gan mam y mwnci
Cwlcymro a ddywedodd:dydi hyn ddim yn swnio'n iawn ddo

'You coming down the pub?'

'No not tonight, I havn't got any patience'!!


" ti'n dod i'r pub"
"dim heno fedrai'm bod yn din (to bach ar yr i!)"

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 5:16 pm
gan Dwlwen
cwlcymro a ddywedodd:'You coming down the pub?'


No, I haven't the patience for it. Rah [optional]

Neu, I can't abide it/ be arsed!

mam y mwnci a ddywedodd:fedrith rhywun esbonio i fi pam nad ydi longing run fath a hiraeth?


Smo longing yn cyfleu'r elfen o dristwch sy'n hiraeth - mae'i ystyr fwy tebyg i ddyhead.
Ma hefyd rhyw awgrym yn y gair hiraeth bo ti ddim yn mynd i allu adennill yr hyn ti'n gweld eisiau. Yn llythrennol, ma nostalgia'n well drosiad, ond weden i fod e'n llai dwys rhywffordd o rhan 'r hyn mae'n 'i gyfleu.

'Na 'marn i bethbynnag