Tudalen 1 o 3

Beth ydi'r ffordd Gymraeg orau o gyfieithu 'actually'?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 4:42 am
gan Dylan
'Dw i'n dweud 'actually' yn amlach nag sy'n iach ac mae'n mynd ar fy nerfau i'n llwyr. Ond mae 'i ddweud y gwir' a'i debyg yn swnio yn drwsgl braidd.

wrth gwrs dylid gallu siarad Cymraeg mewn ffordd lle nad oes rhaid ceisio cyfieithu'r fath beth yn y lle cyntaf (yn amlwg, neu mi fuasai yna gyfieithiad Cymraeg glân gloyw amdano) ond mae'r Saesneg yn dylanwadu ar gystrawen ein brawddegau Cymraeg yn ogystal ag ychwanegu geiriau newydd. 'Dw i'n syrthio mewn i'r trap yn rhy aml.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 10:08 am
gan mred
Beth am 'wir' neu 'go iawn' - Wyt ti wir yn mynd i fynd? Fedri di mo'u defnyddio yn lle 'actually' ym mhob cyd-destun. Swn i'm yn gweld dim o'i le efo '[a] deud y gwir', a deud y gwir.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 11:38 am
gan nicdafis
Cytuno â ti yma Dylan, bod dylanwad y Saesneg yn gryf iawn ar Gymraeg lot ohonon ni, ac mae "actually" yn enghraifft da o hyn, actiwali. Mae'n cael ei or-ddefnyddio yn Saesneg, ac yn aml iawn dyw e ddim yn (actiwali) wneud dim byd yn y frawddeg. Gadael fe mas yn gyfan gwbl byddai'r peth gorau, a'i gyfieithu fel "mewn gwirionedd" neu rhywbeth os oes wir (actiwal) angen.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 11:43 am
gan Geraint
Mae defnydd y 'basically' yn cythruddo fi hefyd, yn siarad Saesneg neu Cymraeg.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 5:53 pm
gan Rhodri Nwdls
Anyway/eniwe...dwi'n euog iawn o hyn.

Ond ma deud 'lly yr un mor annoying (sbiwch. eto!)

Dwi'n euog iawn pan yn siarad ar lafar, diogrwydd llwyr ydi o.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 7:42 pm
gan Dylan
ia, ceisio peidio ei ddweud o gwbl sydd orau am wn i. Ond os oes rhaid... ia, 'dw i'n cytuno mai 'mewn gwirionedd' ydi'r dewis gorau.

Mae'r gorddefnydd o'r gair 'basically' yn fy ngwneud i'n benwan. Aaaargh. Mae lot o bobl jyst yn ei roi ar ddechrau brawddeg - yn hollol ddi-angen a di-ystyr - er mwyn cael mwy o amser i feddwl.

Ond yn waeth byth ydi'r trend weddol ddiweddar o gamddefnyddio'r gair 'literally'. Mae'n debyg bod rhai IDIOTS jyst yn credu mai gair i adio pwyslais a grym ydyw. 'The police were literally swimming in a sea of red herrings', oddi ar ryw raglen newyddion rhyw flwyddyn yn ôl. 'The world is, quite literally, your oyster', oddi ar ryw raglen gwyliau rywbryd. AAAAARGH.

Anfaddeuol. DYSGWCH YSTYR Y FFYCING GAIR!!

ahem. Diolch, 'roedd angen y rant yna arna' i.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 10:46 pm
gan Chwadan
Na na na na na....da chi gyd anghywir.

Y peth mwya fflipin annoying, ahem, _dwi'm yn gwbod y gair yn Gymraeg_ ydi "At the end of the day..." a ma hyn fil o weithia yn fwy annoying yn Gymraeg "Ar ddiwedd y dydd..."
AAAAAAAHHHHHHHHHHHHHHHHHH!!!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Rhag 2003 11:30 am
gan Rhodri Nwdls
Chwadan a ddywedodd:Na na na na na....da chi gyd anghywir.

Y peth mwya fflipin annoying, ahem, _dwi'm yn gwbod y gair yn Gymraeg_ ydi "At the end of the day..." a ma hyn fil o weithia yn fwy annoying yn Gymraeg "Ar ddiwedd y dydd..."
AAAAAAAHHHHHHHHHHHHHHHHHH!!!

"At the end of the day...it's fuckin' night time"

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 2:54 pm
gan Lowri Fflur
Be dwi' n ffeindio yn OFNADWY o annoying pan mae pobl yn siarad efo fi ydi ei bod yn dechrau llawer o frawddegi efo "no offence " a wedyn yn mynd ymlaen i ddeud pethau sy' n pechu fi go iawn. Pam mae pobl yn gwneud hyn? Mae' n siwr bod nw' n neud o i neud i b e mae nw' n ddeud peidio swnio mor ddrwg.

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 3:09 pm
gan Chwadan
Pan ma rywun yn deud "No offence" cyn mynd ymlaen i ddeud wbath fasa ddim yn offensif fel arfer, dwi'n cymyd offens achos ma nhw'n amlwg yn disgwyl i chi neud :?