Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 4:51 pm
gan Hogyn o Rachub
Fyswn i'n dweud 'a deud y gwir' yn lle 'actually' dw i'n meddwl.

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2003 7:29 pm
gan Dylan
heh. Atgoffa fi o'r anfarwol "I'm not a racist, but...."

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 7:37 pm
gan Rhydian Gwilym
Mae'n dangos bod yr iaith Saesneg wedi dylanwadu yn llwyr ar y Cymry. ond dydw i ddim llawer gwell. EVEN THOUGH yw fy mrhif un rydw i'n ei ddweud. ond gyda actually mi rydw i'n dweud 'deud y gwir'.

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 7:42 pm
gan Dr Gwion Larsen
Rhydian Gwilym a ddywedodd:Mae'n dangos bod yr iaith Saesneg wedi dylanwadu yn llwyr ar y Cymry. ond dydw i ddim llawer gwell. EVEN THOUGH yw fy mrhif un rydw i'n ei ddweud. ond gyda actually mi rydw i'n dweud 'deud y gwir'.

Dwin ceisio defnyddio 'fel ag y mae' ond be dwin deud ydi 'yeah, I know' yn dynwared y boi o little britain. Ond wirioneddol be dwin deud ydi e-mail ydi'r drwg yn y caws yn fy iaith (effaith cwrs technoleg gwybodaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen)(gweler dyfodol yr iaith am chwaneg o wybodaeth)

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 2:27 pm
gan Ifan Saer
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fyswn i'n dweud 'a deud y gwir' yn lle 'actually' dw i'n meddwl.


I gadw at y pwnc, cytunaf รข HoR. A mred ynglyn 'wir/go iawn' mewn amgylchiadau eraill. Maent wir yn ffyrdd hollol dderbyniol o ddeud 'actually' yn Gymraeg, a deud y gwir.

Even though = er fod / er nad.

Beth bynnag...

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2004 4:06 am
gan Mali
Ia, 'gwir', 'go iawn ', neu hyd yn oed 'mewn gwirionedd'. :winc:

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 11:29 pm
gan Rhys Llwyd
i ddweud y gwir

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 11:40 pm
gan Lowri Fflur
Dwi' m yn mwydro wan ia :winc:

PostioPostiwyd: Sul 01 Chw 2004 9:42 pm
gan Wierdo
Beth syn wir yn mynd sr fy nerfa' i (i newid y pwnc eto :wps: ) ydi pan dwin deud "at the risk o" dwi wir methu meddwl am ffordd gymraeg o ddweud hyna...

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 3:07 pm
gan Garnet Bowen
Actually = Deud gwir? Byr a brathog, a ddim yn ormod o lond ceg i Gofi dre, hyd yn oed.

At the end of the day = Yn y pen draw? Dwn i'm.