ydi mwddrwg yn air?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

ydi mwddrwg yn air?

Postiogan Mwddrwg » Llun 19 Ion 2004 11:08 am

dwi'n siwr fod mwddrwg yn air iawn - ond dydi o ddim yn y geiriadur. dwi'n meddwl na gair gog ydi o ond ro'n i'n syrpraisd nad ydi ambell i hwntw wedi ei glywed o'r blaen.

all unrhyw un glirio'r mater yma i mi - dwi'n dechrau amau fy hun? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Mr Gasyth » Llun 19 Ion 2004 11:15 am

Odd taid wastad yn galw fi'n mwddrwg pan o'n i'n fach, dwi'n meddwl ei fod o'n golygu person sydd yn hoffi gneud drygau ond heb fod yn berson cas neu ddrwg fel y cyfryw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Llun 19 Ion 2004 11:28 am

eiliaf aled


Ydi ansbaradigeuthys yn air?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 19 Ion 2004 11:38 am

Wel, wy wedi edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, a dyw e ddim na. Ac mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn gwbod popeth.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Macsen » Llun 19 Ion 2004 11:42 am

Wel, wy wedi edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, a dyw e ddim na. Ac mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn gwbod popeth.


Dyna contradiction! Os nad yw e'n gwybod am mwrddrwg, tydi o ddim yn gwybod popeth, nad yw e? :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan løvgreen » Llun 19 Ion 2004 12:12 pm

Mae "mwddrwg" yn tarddu o "mwrddrwg" ac mae hwnnw yn y Geiriadur, lle mae'n deud "gweler 'mawrddrwg' ".
Felly "Mawr Ddrwg" ydi mwddrwg. Da de?
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan Mwddrwg » Llun 19 Ion 2004 1:14 pm

diolch yn fawr bawb - o'n i'n meddwl am funud bo fi'n drysu - neu bod mwddrwg yn air nath Dad neud i fyny i fy ngalw i pan o'n i'n blentyn.

mawr ddrwg... enw mwy addas nag o'n i di meddwl :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai