7 o swyddi'n ymwneud â'r iaith ym Mhrifysgol Bangor

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

7 o swyddi'n ymwneud â'r iaith ym Mhrifysgol Bangor

Postiogan brenin alltud » Gwe 13 Chw 2004 10:10 am

PRIFYSGOL CYMRU, BANGOR

YSGOL SEICOLEG ac ADRAN IEITHYDDIAETH

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer chwe swydd Cynorthwy-ydd Ymchwil 7 mis rhan amser a Rheolwr Prosiect rhan-amser i weithio ar brosiect sydd yn olrhain“Pam nad yw plant rhai rhieni dwyieithog yn cael eu codi’n ddwyieithog, a beth y gellir ei wneud er mwyn newid hyn?” a gyllidwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda thîm o ymchwilwyr o’r Ysgol Seicoleg a’r Adran Ieithyddiaeth, o dan oruchwyliaeth Dr Virginia Mueller Gathercole.


Cynorthwywyr Ymchwil Rhan-Amser (6)
Cyflog: £18,265 (ar Raddfa R&A 1B) y.f. pro rata

Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg. Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwy-ydd Ymchwil o Ogledd Cymru, dau o’r canolbarth, a dau o Dde Cymru. Bydd y cynorthwywyr yn gweithio fesul dau, fel bod dau yn gweithio yng Ngogledd Cymru, dau yn y canolbarth, a dau yn y De. Bydd gofyn i’r parau gasglu data gyda’i gilydd o dro i dro, ac yn unigol bryd arall. Bydd y cynorthwywyr yn gyfrifol am lwytho’r data a gesglir i mewn i fas-ddata’r cyfrifiadur, ac yn gyfrifol am gynorthwyo gyda dadansoddi’r data ac ysgrifennu am y canlyniadau. Bydd y cynorthwywyr o lefel myfyriwr prifysgol neu uwch. Mae’n hanfodol bod pob cynorthwy-ydd yn siaradwr brodorol ac yn hanu o’r ardaloedd hynny ble byddent yn casglu data.

Mae profiad o gyfweld oedolion, casglu data oedolion a phant, a chynnal astudiaethau arbrofol o fantais. Mae profiad o weithio gyda chyfrifiaduron o fantais, ond nid yn hanfodol. Bydd y swydd yn cychwyn Ebrill 1, 2004 hyd 31 Hydref, 2004..

Mae posib y bydd cyfle i gyfuno un o’r swyddi hyn gyda’r swydd Rheolwr Prosiect sydd wedi ei hysbysebu o dan yr un prosiect (gweler swydd cyf 04-3/120).

Dyfynnwch gyfeirnod 04-3/121 pan fyddwch yn gwneud cais.



Rheolwr Prosiect Rhan-Amser
Cyflog: £18,265 (ar Raddfa R&A 1A) y.f. pro rata

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg. Bydd y Rheolwr Prosiect yn gyfrifol am rediad llyfn yr astudiaeth. Bydd o neu hi yn goruchwylio’r casglu data, a’r cysylltiadau gydag ysgolion a theuluoedd. Bydd o/hi hefyd yn gyfrifol am oruchwylio darpariaeth y ffurflenni ar gyfer cyfweliadau, arbrofion, a holiaduron; anfon a derbyn ffurflenni oddi wrth gyfranogwyr; trosglwyddo’r data i’r cyfrifiadur; dadansoddi data; ac ysgrifennu am y data. Bydd y Rheolwr Prosiect o lefel olradd neu uwch.

Mae profiad o gyfweld oedolion, casglu data oedolion a phant, a chynnal astudiaethau arbrofol o fantais. Mae profiad o weithio gyda chyfrifiaduron o fantais, ond nid yn hanfodol. Mae sgiliau trefnu yn ofynnol, a phrofiad gyda rheoli swyddfa o fantais. Bydd y swydd yn cychwyn Mawrth 1, 2004 (neu mor fuan a phosib wedi hynny).

Mae posib y bydd cyfle i gyfuno’r swydd gydag un o’r swyddi Cynorthwywyr Ymchwil Rhan-Amser sydd wedi eu hysbysebu o dan yr un prosiect (gweler swydd cyf 04-3/121).

Dyfynnwch gyfeirnod 04-3/120 pan fyddwch yn gwneud cais.


- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Mae ffurflenni cais a manylion pellach i’w cael trwy gysylltu ag Adnoddau Dynol, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG; ffôn: (01248) 382926/388132; e-bost: personnel@bangor.ac.uk

Dyfynner y cyfeirnod priodol wrth wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y swydd Rheolwr Prosiect yw 23 Chwefror, 2004. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd Mawrth 2, 2004.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y swyddi Cynorthwy-ydd Ymchwil yw 8 Mawrth, 2004. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swyddi hyn Mawrth 23, 2004.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â Dr Virginia Mueller Gathercole, ffôn: (01248) 382624, e-bost: v.c.gathercole@bangor.ac.uk .neu Dr Enlli Thomas, ffôn: (01248) 388180, e-bost: enlli.thomas@bangor.ac.uk



Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 13 Chw 2004 10:16 am

O lle gest ti hwnne frenin? alli di roi'r linc i fi plis?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan brenin alltud » Gwe 13 Chw 2004 10:23 am

Ffrind i mi sy'n rhan o'r Ysgol Seicoleg anfonodd e ata i.

Sori, os sgen i ddim rhagor o lincs, dim ond yr hyn sy'n yr hysbyseb.

Swnio'n cool, dydyn?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Ifan Saer » Gwe 13 Chw 2004 3:08 pm

Ydi, ond mae'n drueni hefyd fod Americanes yn gorfod dechrau ymchwil pwysig fel hyn. (Ond chware teg a diolch yn fawr iawn iddi.)

Lle mae'r Cymry cyfatebol?
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan brenin alltud » Gwe 13 Chw 2004 3:52 pm

Yn yr adran. Gw. Enlli Thomas
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Ifan Saer » Gwe 13 Chw 2004 5:41 pm

Iawn, falla na fi wnaeth glywed yn anghywir - ond y diwrnod o'r blaen, fe glywis i am y gwaith ymchwil yma, a cefais wybod mai syniad Dr Virginia Mueller Gathercole oedd y cwbwl.

Y pwynt yr oeddwn i'n drio ei wneud (yn anllwyddianus) oedd pam ein bod ni'r Cymry yn aros nes fod yna Americanes o bawb yn penderfynu dechrau gwaith ymchwil o'r fath? (Unwaith eto, diolch iddi hi am wneud.) Dyna oeddwn i'n feddwl efo 'Cymry cyfatebol'.

Dwi'n fodlon derbyn falla 'mod i wedi ffwndro pethau.
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan brenin alltud » Mer 18 Chw 2004 1:36 pm

Mae pobol sy' wedi dod o'r tu allan yn gallu gweld pethau'n gliriach na ni'n aml Ifan... nid bo hynny'n esgus. Ond rhaid deud bod yr adran yn gefnogol dros ben i ymchwil i ddwyieithrwydd a'r Gymraeg.

Ta waeth, o'n i ond am dynnu sylw nol at y swyddi ma - mae'r ceisiadau fod mewn ddydd Llun! Cym on, bois, maen nhw'n jobsys anhygoel i unrhyw un sy' 'di neud gradd yn Gymraeg ac lot mwy ecseiting na hen gyfieithu neu ddysgu boring!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Ifan Saer » Gwe 20 Chw 2004 5:06 pm

Dim ond canol ffordd drwy fy mlwyddyn gyntaf ydw i. :crio:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 20 Chw 2004 5:24 pm

Ta waeth, o'n i ond am dynnu sylw nol at y swyddi ma - mae'r ceisiadau fod mewn ddydd Llun! Cym on, bois, maen nhw'n jobsys anhygoel i unrhyw un sy' 'di neud gradd yn Gymraeg ac lot mwy ecseiting na hen gyfieithu neu ddysgu boring!


Ydyn ma nhw, heblaw eu bod nhw'n rhan amser de!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan garynysmon » Maw 24 Chw 2004 8:25 pm

Ifan Saer a ddywedodd:Dim ond canol ffordd drwy fy mlwyddyn gyntaf ydw i. :crio:


Diogon o amser i falu cachu ac yfed yn wirion felly :winc:
Wnesh i gymeryd yr hen agwedd o 'dim ond 40% dwi isho ymhob modwl, so gai wneud be liciai'!
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron