Be di'r enghraifft waetha o'r Gymraeg yn cael ei cam-drin 'da chi 'di weld ar y wefan 'ma? Dwi'n meddwl bod hi'n bryd i ffasgwyr iethyddol y maes gamu allan o'r cysgodion.
A mi wnai gychwyn efo........
Yn y seiat 'Llenyddiaeth', mae 'na edefyn o'r enw "Llyfr gorau di-ffuglen". Di-ffuglen? Be ffwc ydi di-ffuglen?
o.n.
Dwi'n gobeithio medrith pob un ohona chi ddod o hyd i enghraifft o Gymraeg warthus dwi 'di sgwenu. Toes 'na neb yn ddi-euog.