Esblygiad Iaith (Cloi edefyn)

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cloi edefyn

Postiogan Aran » Iau 19 Chw 2004 10:57 am

Aled a ddywedodd:Be sydd wedi digwydd i synnwyr digrifwch bobl ar maes-e?


mae'n syndod pa mor aml mae hyn yn cael ei drotio allan bob tro bod gweinyddwr yn gwneud penderfyniad o unrhyw fath... ond dw i'n meddwl dy fod wedi ateb dy gwestiwn dy hun i raddau helaeth - mae'n amlwg o'r drafodaeth yma bod hyn yn bwnc sydd yn bell o fod yn un ysgafn.

o ran chwaeth personol, dw i efo Garnet a Jeni - gas gen i glywed geiriau Saesneg, yn enwedig gan fy mod yn llai tebyg o'u dallt yng nghyd-destun Cymraeg (tydy dysgwyr ddim yn ddwyieithog yn yr un ffordd â phobl naturiol ddwyieithog).

ond nid diogrwydd unigolion sydd ar fai am hyn oll, ond y sefyllfa ieithyddol eu bod yn byw ynddi - y caswir ydy bod dyfodol yr iaith yn beth digon annelwig ac amherthnasol i lawer iawn (os nad y mwyafrif) o'r Cymry, a dyna sut mae hi efo pob iaith hyd y gwn i (ag eithrio'r Basgeg, efallai!).

felly mae angen newid y cyd-destun, nid bwlio unigolion. a dyna ydy ymdrech y Maes - i ychwanegu at gyfleon pawb i gyfathrebu yn y Gymraeg, ac felly creu cyd-destun ehangach i'r iaith - ac un lle nad oes angen y Saesneg o gwbl.

ond cynnig y cyd-destun ydy rôl y Maes, nid barnu ffyrdd pobl eraill o siarad. fel nodwyd uchod, mae'r seiat 'Gloywi Iaith' ar gael i bawb sydd isio adborth, ac fel arall, ni fyddai'r Maes mor lwyddiannus tasai pobl yn derbyn darlith bob tro iddynt bostio.

y cyd-destun sydd wedi creu'r problem - felly mae'n rhaid i'r ateb ddod trwy newid y cyd-destun. dydy pregethu wrth unigolion ddim yn mynd i ddatrys dim yn y tymor hir, ac mae'n bosibl y byddai'n troi rhai pobl i ffwrdd - a fyddai'n wrthgynhyrchiol braidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Cloi edefyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 19 Chw 2004 11:12 am

Aran a ddywedodd:ond nid diogrwydd unigolion sydd ar fai am hyn oll, ond y sefyllfa ieithyddol eu bod yn byw ynddi - y caswir ydy bod dyfodol yr iaith yn beth digon annelwig ac amherthnasol i lawer iawn (os nad y mwyafrif) o'r Cymry, a dyna sut mae hi efo pob iaith hyd y gwn i (ag eithrio'r Basgeg, efallai!).


Dwi ddim yn gwybod os ydi hyn yn wir. Mae 'na ddigonedd o bobl ar y maes yma sy'n mynnu eu bod nhw'n genedlaetholwyr neu ymgyrchwyr iaith, sydd yn defnyddio'r Gymraeg yn gwbwl ddi-hid. A'r rhain ydi'r broblem. Mi fedrai faddau i ddysgwyr Cymraeg, neu i siaradwyr o deuluoedd dwy-ieithog, neu i siaradwyr sy'n byw mewn ardaloedd lle nad ydi'r iaith yn cael ei siarad yn naturiol. Ond y broblem ydi fod niferoedd mawr o Gymry Cymraeg sydd wedi eu magu yn y cadarnleoedd, sy'n siarad yr iaith drwy'r dydd, bob dydd, fel iaith naturiol - y vanguard ieithyddol os lici di - yn gwrthod gwneud yr ymdrech i'w siarad hi yn iawn, er eu bod nhw'n cefnogi'r egwyddor o barhad yr iaith. A mae 'na ddiwylliant yn bodoli sy'n rhy oddefgar o lawer, sy'n gwahardd pobl rhag gwneud unrhyw sylw ar natur sathriedig yr iaith ar dafodau'r Cymry naturiol.

Aran a ddywedodd:dydy pregethu wrth unigolion ddim yn mynd i ddatrys dim yn y tymor hir, ac mae'n bosibl y byddai'n troi rhai pobl i ffwrdd - a fyddai'n wrthgynhyrchiol braidd.


Galwa fo'n bregethu neu yn fwlio os lici di, ond y gwir ydi fod rhywun yn dysgu mamiaith nid mewn dosbarth ysgol neu drwy ddarllen llyfr, ond drwy broses o'i siarad hi yn naturiol, a dysgu o'u cangymeriadau. A dyma sy'n cael ei golli heddiw. Tydi neb yn teimlo fod unrhyw gyfrifoldeb arnyn nhw i ddysgu o'u cangymeriadau.

Gyda llaw, fy mwriad i oedd dechrau edefyn fyddai'n cael hwyl ar ben rhai o'r enghreiffitau mwyaf eithafol o faeswyr yn rheibio'r iaith, nid pigo ar bob rhyw fan gangymeriad.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chris Castle » Llun 22 Maw 2004 9:01 am

y broblem ydi fod niferoedd mawr o Gymry Cymraeg sydd wedi eu magu yn y cadarnleoedd, sy'n siarad yr iaith drwy'r dydd, bob dydd, fel iaith naturiol - y vanguard ieithyddol os lici di - yn gwrthod gwneud yr ymdrech i'w siarad hi yn iawn, er eu bod nhw'n cefnogi'r egwyddor o barhad yr iaith.


Mae hynny'n iawn i raddau - hoffwn i weld mwy o ymdrech ganddyn nhw.

Mi fedrai faddau i ddysgwyr Cymraeg, neu i siaradwyr o deuluoedd dwy-ieithog, neu i siaradwyr sy'n byw mewn ardaloedd lle nad ydi'r iaith yn cael ei siarad yn naturiol.


Fi yw hynny wrth gwrs. Ond y ffaith fy mod i'n bodoli ac yn defnyddio'r iaith BYDD yn dylanwadu ar ddefnydd Iaith gan siaradwyr naturiol, yn arbennig pryd mae nifer fawr (mwyafrif mae'n debyg) o bobl yn debyg i fi.

Mater cymhleth o gydymddibyniad/undod/cydsafiad yw e, sydd yn ddylanwadu ar bobl yn isymwybodol. Rhan naturiol o ddatblygiad iaith - megis Lladin yn dylanwadu ar iaith Celtaidd i greu Cymraeg.

Hyd y gwelaf fi, mae pawb yn cytuno â'i gilydd am "beth ydy'r broblem"; ond gallai'r dadl dros beth i'w wneud amdani'n creu trafferth ddi-angen. Dwi'n cytuno ag Aran yn y bôn.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai