Aled a ddywedodd:Be sydd wedi digwydd i synnwyr digrifwch bobl ar maes-e?
mae'n syndod pa mor aml mae hyn yn cael ei drotio allan bob tro bod gweinyddwr yn gwneud penderfyniad o unrhyw fath... ond dw i'n meddwl dy fod wedi ateb dy gwestiwn dy hun i raddau helaeth - mae'n amlwg o'r drafodaeth yma bod hyn yn bwnc sydd yn bell o fod yn un ysgafn.
o ran chwaeth personol, dw i efo Garnet a Jeni - gas gen i glywed geiriau Saesneg, yn enwedig gan fy mod yn llai tebyg o'u dallt yng nghyd-destun Cymraeg (tydy dysgwyr ddim yn ddwyieithog yn yr un ffordd â phobl naturiol ddwyieithog).
ond nid diogrwydd unigolion sydd ar fai am hyn oll, ond y sefyllfa ieithyddol eu bod yn byw ynddi - y caswir ydy bod dyfodol yr iaith yn beth digon annelwig ac amherthnasol i lawer iawn (os nad y mwyafrif) o'r Cymry, a dyna sut mae hi efo pob iaith hyd y gwn i (ag eithrio'r Basgeg, efallai!).
felly mae angen newid y cyd-destun, nid bwlio unigolion. a dyna ydy ymdrech y Maes - i ychwanegu at gyfleon pawb i gyfathrebu yn y Gymraeg, ac felly creu cyd-destun ehangach i'r iaith - ac un lle nad oes angen y Saesneg o gwbl.
ond cynnig y cyd-destun ydy rôl y Maes, nid barnu ffyrdd pobl eraill o siarad. fel nodwyd uchod, mae'r seiat 'Gloywi Iaith' ar gael i bawb sydd isio adborth, ac fel arall, ni fyddai'r Maes mor lwyddiannus tasai pobl yn derbyn darlith bob tro iddynt bostio.
y cyd-destun sydd wedi creu'r problem - felly mae'n rhaid i'r ateb ddod trwy newid y cyd-destun. dydy pregethu wrth unigolion ddim yn mynd i ddatrys dim yn y tymor hir, ac mae'n bosibl y byddai'n troi rhai pobl i ffwrdd - a fyddai'n wrthgynhyrchiol braidd.