Cytuno efo Garnet yn fama. Mae iaith yn beth deinamig ac mae'n rhaid iddi newid er mwyn goroesi, fatha lot o betha. Ond lle ma'r ffin? Pryd mae 'datblygiad naturiol yr iaith' yn golygu bratiaith? Ar ôl i'r 'sigl-di-gwt' droi yn 'wagtail'? Ar ôl i'r 'bresych' droi'n 'gabaij', ar ôl i 'hydoedd' droi'n 'ages'?
Er nad ydi Garnet yn honni bod yn burudd ieithyddol, ac er nad ydi o'n siarad (na sgwennu) mewn iaith ddifrycheulyd (pwy sy'?) dwi'n dallt be mae o'n drio'i ddeud. Ma rhaid trio cadw'r safon, do's bosib? Fel arall, be arall s'gynno ni? Cenedl sy' rhy ddiog i gynnal eu hiaith eu hunain gan ddefnyddio esgusion tila, e.e. mai peth naturiol yw bod y Gymraeg yn bathu geiriau Saesneg a'i fod o'n beth anorfod. Cytuno i ryw radda, yndw, ond dydi hyn ddim yn cyfiawnhau bod yn esgeulus o'r iaith. Deffrwch, go damia. Dim ond isio defnyddio'r gair Cymraeg rhyw chydig o weithia sydd 'i angan a da chi awe.
Dwi'n meddwl ei fod o'n fatar tra phwysig ac y dylian ni drio cywiro'n gilydd (yn ddifalais wrth gwrs) mor amal â phosib. Ella nad ydi o'n beth pleserus iawn, yn enwedig os ydan ni'n ansicr o'r iaith, ond fel arall, sut ydan ni'n mynd i ddysgu?
Ydi medru siarad/sgwennu'r Gymraeg yn gyhyrog ddim yn bwysig? Mae o i mi, beth bynnag. Dwi isio bod yn feistr ar fy iaith fy hun. Dwi isio bod yn falch o eirfa hynod yr iaith a'i defnyddio hi. Wnaiff hyn ddim dal yr iaith yn ei hôl, credwch neu beidio. Dydi deud 'gellyg' yn lle 'pears' ddim yn mynd i lyffetheirio'r iaith mewn unrhyw fodd siwr Dduw. Ei chyfoethogi hi mae o.
Gyda llaw, mi fydda i'n fwy na balch i dderbyn unrhyw wellianna/cywiriada. Croeshoeliwch fi!