Tudalen 1 o 2

Esblygiad Iaith (Cloi edefyn)

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 4:58 pm
gan Mr Gasyth
Be sydd wedi digwydd i synnwyr digrifwch bobl ar maes-e? Ydi, ma ymosodiadau ar safon iaith pobl yn gwbl anerbynniol wrth gwrs, ond mae cloi edefyn oedd yn gofyn am enghreifftiau digri o gamddefnyddio iaith yn mynd braidd yn bell tydi? Tydw i ddim yn meddwl mai ymosod ar bobl oedd bwriad Garnet o gwbl, jest cyfle i dynnu coes heb angen i neb fod yn or-sensatif am y peth, neu ydi tynny coes yn banned wan hefyd?:winc:

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 5:05 pm
gan Garnet Bowen
O wel. Felna ma' hi. Diolch byth bod yr edefyn wedi' gloi cyn i Silidon gael cyfle i ddarlledu rhai o'm mhechoda ieithyddol i.

Er, mae 'na bwynt difrifol i'w wneud yn rwla, dwi'n siwr.....

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 5:13 pm
gan Mr Gasyth
Newydd ddarllen dy sylw mewn edefyn arall Garnet, a dwi bron a thynnu fy mhrotest yn ol! Tydw i ddim yn meddwl y dylai Cymraeg bobl gael ei farnu ar maes-e, nag yn unrhywle arall o ran hynny, ond i mi ma tynnu coes yn rywbeth gwahanol. Ella fod y linell yn un fain, dwnim.
Ma iaith yn rywbeth sy'n newid yn gyson ac os nad ydi hi'n newid wneith hi'm byw. Heddiw da ni'n ystyried pobl sydd ddim yn treiglo yn ddiog, ond ychydig sy'n cofio na'r rheswm y dechreuodd y Brythoniaid dreiglo oedd am eu bod hwy'n siarad yn ddiog!
Ma 'puryddion' pob iaith yn cwyno ei bod hi'n dirywio, ond arwydd o gryfder nid gwendid ydi datblygiad mewn iaith.

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 5:26 pm
gan Garnet Bowen
Mae dy ddadl di yn un sy'n dal dwr yn rhesymegol, ond sydd yn peryglu bodolaeth hanfodol y Gymraeg. Ti'n berffaith gywir fod rhaid i ieithoedd esblygu, ond yn draddodiadol mae hyn wedi digwydd drwy broses symbiotic o rannu geiriau. Ond yng Nghymru heddiw, dim ond un dylanwad sydd 'na ar y Gymraeg. A nid helpu'r Gymraeg i esblygu wnaiff y Saesneg, ond ei throi hi yn araf bach i fod yn ddim mwy na thafodiaith o'r Saesneg.

Mae hi'n gyfrifoldeb ar unrhywun sy'n poeni am ddyfodol yr iaith i wneud ymdrech i'w siarad hi yn gywir. Be ydi pwrpas brwydro dros iaith sy'n ddim mwy na cyfres o eiriau Saesneg, mewn idiom Saesneg, efo ambell i "yn", "er" ac "a" rhyngthyn nhw?

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 5:54 pm
gan Jeni Wine
Cytuno efo Garnet yn fama. Mae iaith yn beth deinamig ac mae'n rhaid iddi newid er mwyn goroesi, fatha lot o betha. Ond lle ma'r ffin? Pryd mae 'datblygiad naturiol yr iaith' yn golygu bratiaith? Ar ôl i'r 'sigl-di-gwt' droi yn 'wagtail'? Ar ôl i'r 'bresych' droi'n 'gabaij', ar ôl i 'hydoedd' droi'n 'ages'?

Er nad ydi Garnet yn honni bod yn burudd ieithyddol, ac er nad ydi o'n siarad (na sgwennu) mewn iaith ddifrycheulyd (pwy sy'?) dwi'n dallt be mae o'n drio'i ddeud. Ma rhaid trio cadw'r safon, do's bosib? Fel arall, be arall s'gynno ni? Cenedl sy' rhy ddiog i gynnal eu hiaith eu hunain gan ddefnyddio esgusion tila, e.e. mai peth naturiol yw bod y Gymraeg yn bathu geiriau Saesneg a'i fod o'n beth anorfod. Cytuno i ryw radda, yndw, ond dydi hyn ddim yn cyfiawnhau bod yn esgeulus o'r iaith. Deffrwch, go damia. Dim ond isio defnyddio'r gair Cymraeg rhyw chydig o weithia sydd 'i angan a da chi awe.

Dwi'n meddwl ei fod o'n fatar tra phwysig ac y dylian ni drio cywiro'n gilydd (yn ddifalais wrth gwrs) mor amal â phosib. Ella nad ydi o'n beth pleserus iawn, yn enwedig os ydan ni'n ansicr o'r iaith, ond fel arall, sut ydan ni'n mynd i ddysgu?

Ydi medru siarad/sgwennu'r Gymraeg yn gyhyrog ddim yn bwysig? Mae o i mi, beth bynnag. Dwi isio bod yn feistr ar fy iaith fy hun. Dwi isio bod yn falch o eirfa hynod yr iaith a'i defnyddio hi. Wnaiff hyn ddim dal yr iaith yn ei hôl, credwch neu beidio. Dydi deud 'gellyg' yn lle 'pears' ddim yn mynd i lyffetheirio'r iaith mewn unrhyw fodd siwr Dduw. Ei chyfoethogi hi mae o.

Gyda llaw, mi fydda i'n fwy na balch i dderbyn unrhyw wellianna/cywiriada. Croeshoeliwch fi! :D

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 6:06 pm
gan Mr Gasyth
Ma na seiat gloywi iath ar gyfer pobl sydd isho'u cywiro. Ddylai pobl ddim cael eu cywiro os dydyn nhw ddim ishio.
Cytuno i raddau o ran benthyg geiriau saesneg, lle ma na air Cymraeg dylai pawb drio'i ddefnyddio fo.
Ond o ran treiglo, cenedl enwau a ballu ma'r ffaith eu bod nhw'n cael eu defnyddio llai yn dangos fod llai o'u hangen nhw erbyn hyn er mwyn i bobl gael eu deall. A tuedd pobl drwy'r oesoedd ac ar draws y byd ydi dweud beth sydd hawsaf tra yn dal i gael eich deall.

er enghraifft: pam trafferthu deud 'fy nghath i' pan ma 'cath fi' yn cyfleu yn union yr un ystyr ac yn haws. Nid benthyciad o'r saesneg ydi hyn (cat me!!!) ond datblygiad naturiol yn yr iaith na ellir ei atal ac sydd yn dda o beth.

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2004 9:34 am
gan Garnet Bowen
Aled a ddywedodd:Ma na seiat gloywi iath ar gyfer pobl sydd isho'u cywiro. Ddylai pobl ddim cael eu cywiro os dydyn nhw ddim ishio.


Mae hyn yn hollol ddi-bwrpas. Mae 'na nifer fechan o bobl sy'n gneud ymdrech i wella eu Cymraeg, a mi fydda nhw wastad yn fodlon derbyn beirniadaeth. Ond nid y bobl yma ydi'r broblem. Y broblem ydi'r mwyafrif o Gymry Cymraeg ifanc sy'n rhy ddiog i wneud yr ymdrech i ddod o hyd i air Cymraeg lle mae nhw'n medru meddwl am un Saesneg wneith y tro. A heb gic yn eu tina', neith nhw byth wneud yr ymdrech i newid eu harferion.

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2004 9:55 am
gan Mr Gasyth
Rarclwy mawr, mi ddyla bobol allu dod ar maes- e heb orfod peoni am gael eu cywiro bob dau funud. Os di bobl ishio dysgu, digon teg, ond bydd rhan fwya o bobl jest yn mynd yn pissed off ac yn gadael os di nhw'n cael eu barnu bod dau funud. Fedri di'm cael trafodaeth gall am ddim byd os ydi bob yn ail neges yn mynd i fod yn un sy'n cywiro gwall iaith yn y dwetha siwr!

Am rywyn sydd fel arfer mor ryddfrydol ei ddaliadau ti'n bod yn anghygoel o 'authoritarian' ar y mater yma Garnet.

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2004 9:57 am
gan Mr Gasyth
Garnet a ddywedodd:A heb gic yn eu tina', neith nhw byth wneud yr ymdrech i newid eu harferion.


Tra buase hi ella'n braf petai pawb yn defnyddio geirio cymraeg bob tro, dydi cic yn din yn aml ond yn golygu un peth - eu bod nhw'n gadael y Gymraeg yn gyfan gwbl.

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2004 10:20 am
gan Garnet Bowen
Tydw i ddim wedi astudio Cymraeg yn ffurfiol ers pan on i'n 16 oed, a toes gen i ddim gafael ffurfiol ar ramadeg. Yr unig ffordd 'dwi 'di dysgu ydi drwy gael ambell i gic yn fy nhin o dro i dro, gan fy rhieni, a gan bobl eraill o'n nghwmpas sydd yn poeni am y Gymraeg. Hon ydi'r ffordd naturiol o ddysgu iaith frodorol, mae o'n rhywbeth sy'n digwydd ym mhob iaith. Dim ond yng Nghymru yda ni mor ddi-asgwrn cefn a pheidio gwneud hyn rhag ofn i ni bechu rhywun.

(Gyda llaw, tydw i ddim yn deallt sut mae hyn yn mynd yn groes i'm daliadau rhyddfryfol. Nid gofyn i lywodraeth ddeddfu ar y pwnc ydw i, ond gofyn i unigolion sy'n siarad yr iaith gymeryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros ei dyfodol.)