Cariadon Cymraeg
Postiwyd: Iau 01 Ebr 2004 10:44 am
Allan o ddiddordeb, sawl un ohonach chi sydd efo cariad di-Gymraeg?
Rhys a ddywedodd:Mae fy nghariad i'n dod o Loegr ond mae hi'n rhugl rwan. Da ni'n ei chael hi'n anodd sgwrsio'n Gymraeg adre gan ein bod ni di dechrau siarad yn Saesneg gyda'n gilydd, ond mae'n llawer haws pan ydym allan mewn criw.
Meic P a ddywedodd:DYDI MAM DDIM YN GARIAD IFI RHAG OFN I CHI BETHA SAL DDEUD RW JOC!
Rhys a ddywedodd:Mae fy nghariad i'n dod o Loegr ond mae hi'n rhugl rwan. Da ni'n ei chael hi'n anodd sgwrsio'n Gymraeg adre gan ein bod ni di dechrau siarad yn Saesneg gyda'n gilydd
Meic P a ddywedodd:Ma mam yn dod o Glasgow, Yr Alban. Nath hi ddysgu pan oni'n hogyn bach.
Meic P a ddywedodd:DYDI MAM DDIM YN GARIAD IFI RHAG OFN I CHI BETHA SAL DDEUD RW JOC!
dimbendith a ddywedodd:Rhys a ddywedodd:Mae fy nghariad i'n dod o Loegr ond mae hi'n rhugl rwan. Da ni'n ei chael hi'n anodd sgwrsio'n Gymraeg adre gan ein bod ni di dechrau siarad yn Saesneg gyda'n gilydd
Ti wnaeth ddysgu Cymraeg wrthi? Wyt ti'n meddwl ei fod o'n bosibl i chi ddechrau siarad Cymraeg efo'ch gilydd gartre? Mae 'y nghariad i 'di bod yn dysgu ers i ni gwrdd ond dan ni byth yn siarad Cymraeg efo'n gilydd.