Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 2:38 pm
gan Dwlwen
Tra o'n i'n coleg, fues i'n gweld boi o Ogledd Iwerddon am sbel fowr 'Nes i'ngorau i ddysgu peth o'r iaith iddo, a go aml wele chi fi'n traipso rownd yn llefaru fy ngwlad lawr y ffon tra'n feddw, gan obeithio fod e'n rhannu fy angerdd - ond 'nath e 'ried. Mond nos da alle fe weud ar ol 3 blynedd. O'dd yr iaith byth yn issue yn y berthynas na'r split, ond rhaid cyfadde o'dd e'n neud fi'n drist i feddwl fod dim diddordeb da'ge yn yr elfen hynod o bwysig 'ma o'm mywyd. Shame 'de
Newydd sylweddoli cymaint ma'r uchod yn swnio fel stori our tune, ymddiheuriadau

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 2:57 pm
gan Rhys
Doeddwn i ddim eisiau rhoi pwysau ar fy nghariad i ddysgu Cymraeg, ond roeddwn yn falch iawn pan ddwedodd hi ei bod eisiau gallu siarad Cymraeg (wel ei ddeall yn fwy na'i siarad). Roedd hi'n dweud ei bod hi'n teimlo'n euog pan oeddwn i am ffrindiau am teulu i gyd yn newid i'r Saesneg pan oedd hi'n bresenol. Roedd hi'n gallu gweld (a chlywed pa mor awkward oedden ni'n siarad Saesneg gyda'n gilydd.

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 3:05 pm
gan Baps
Oni'n mynd efo Cymraes di-Gymraeg am tua 2 flynedd, mi wnath hi ddysgu a oedda ni'n trio siarad Cymraeg efo'n gilydd, ond mae o'n reit anodd pan ti di arfer siarad Saesneg efo rywun, ryw 'double dutch' oeddan ni'n siarad deud gwir.

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 3:16 pm
gan Dwlwen
roeddwn yn falch iawn pan ddwedodd hi ei bod eisiau gallu siarad Cymraeg


Wel ma hynny'n beth i werthfawrogi Rhys.
'nes i'm rhoi unrhyw bwysau a fy nghyn-gariad chwaith - fel wedes i, odd e ddim yn issue - o'n i mewn Prifysgol Saesneg, felly fydde fe ddim! Odd nos da'n ddigon i fi, o ystyried cymaint o'dd e methu cofio[/quote]

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 11:56 am
gan LMS
Wel, dwi'n mynd allan efo rhywun o Sir Fôn a ma'r acen hynna'n ddigon anodd i'w ddeall, coeliwch chi fi!! :?

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 1:26 pm
gan Norman
dwi di cael n ffrindia saesneg yn coleg i ddeud,

Dydd da,
Mai,
Braf Heddiw,
Di di,
Bechod,
Iechyd Da

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 2:18 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
geshi ryw fath o berthynas efo sais am flwyddyn, ac er bod o 'di ryw hannar trio dysgu, yn y pendraw oni'n methu peidio teimlo bod o byth yn gallu 'neall i'n iawn tan oedd o'n dysgu. oni'n teimlo fatha mai dim ond cyfieithiad ohona i'n hun oni. felly, ar ol iddo fo ddeud i fod i sho dysgu mi brynish i lyfra a thapia iddo fo, a thrio rhoi gwersi dyddiol, ac ar un pwynt oedda ni'n gallu cynnal sgyrsia bach syml yn gymraeg efo'n gilydd. ar ol hynny, neshi ddim ei weld o am fis, a nath o anghofio'r cwbl. oni'n methu peidio teimlo braidd yn pisd off bod o heb neud yr ymdrech tra oni ddim yna, achos odd yr ymdrech oni'n roi i mewn i'w ddysgu o yn lot fawr o waith! o wel. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 3:50 pm
gan Chwadan
Norman a ddywedodd:dwi di cael n ffrindia saesneg yn coleg i ddeud,

Dydd da,
Mai,
Braf Heddiw,
Di di,
Bechod,
Iechyd Da

Ma'r hogan sy'n rhannu stafell efo fi'n deud "Dwi'n hoffi moron coch" o hyd, yn ogystal a "Dwi'n dy garu", "tatws", "nionyn", "pys", "glas" a ballu. Ond am ryw reswm ma ganddi hi acen Sbaenaidd pan ma hi'n siarad Cymraeg :?

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 3:54 pm
gan mam y mwnci
Mae ffrind i fi sy'n dysgu cymtaeg wastad yn deud " lle mae dy dei du di? ydio yn dy dy^ di neu ydio gan dy dad?" dwi'n lecio hwna! :lol:

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 5:27 pm
gan LMS
Gan fy mod innau o'r de ac yn awr yn y coleg ym Mangor dwi di trio dod i ddeall acenion a geiriau gwahanol.

Hefyd dwi di cael fy ffrindiau gogleddol i ddeud 'nawr' yn lle 'rwan' a cael fy nghariad i ddeud 'amdano' yn lle 'amdan'!! :P Tydw i'n dda?!