Tudalen 1 o 1

meddalwedd croeseiriau

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 1:37 pm
gan sian
A oes rhywun yn gwybod am feddalwedd da i wneud croeseiriau a chwileiriau?
Rwy'n gorfod cyfieithu rhai o'r Saesneg i'r Gymraeg ac wedyn mae angen newid y grid aballu.

Diolch
Siân

Re: meddalwedd croeseiriau

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 3:02 pm
gan Dr Gwion Larsen
sian a ddywedodd:A oes rhywun yn gwybod am feddalwedd da i wneud croeseiriau a chwileiriau?
Rwy'n gorfod cyfieithu rhai o'r Saesneg i'r Gymraeg ac wedyn mae angen newid y grid aballu.

Diolch
Siân
mae un i athrawon, sori ddim yn cofio'r wefan!

Chwilotair

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 10:26 pm
gan Dilwyn Roberts-Young
Rhaglen gyfrifiadur yw Chwilotair sy'n cynnig sgwâr o lythrennau ar y sgrîn wedi'i gyflwyno fel pos i'w ddatrys o fewn amser cyfyngedig; gallwch hefyd gael allbrint o'r sgwâr gyda rhestr o'r geiriau cudd. Mae deuddeg gair a ddewiswyd ar hap o restr parod ar y ddisg wedi'u gosod o fewn y sgwâr. Mae cyfanswm o 27 o restri enwau yn gynwysiedig ar y ddisg mewn ffeiliau unigol. Gallwch ychwanegu enwau at y rhestri hyn neu greu eich rhestri eich hunan hefyd.
Pris: £18.50 + cludiant + TAW
MEU Cymru, WJEC/CBAC Limited,
245 Rhodfa'r Gorllewin, CAERDYDD CF5 2YX
Ffôn 029-2026-5011; Ffacs 029-2057-5995
e-bost: meucymru@cbac.co.uk
http://www.meucymru.co.uk
Dwn i ddim os ydi'r rhaglen dal ar gael!!!!!!!!!!!!
Hwyl
Dilwyn