ar gefn fy nhrhwydded yrru i, ma 'na ddau rif, 1 ar gyfer ymholiadau am drwyddedau gyrru: 0870 240 0009, ac un arall ar gyfer holi am gerbydau: 0870 240 0010. yr un rhif ydi o ar ochr y saesneg hefyd (sy'n warth) gofyn am ryuwn sy'n siarad cymraeg sydd angen i ti neud-ond ma'r ddau berson hynny di cymryd hanner dydd heddiw-sw'n i'n synnu dim.
o.n o 8 tan 8 ma'r llinelle ar agor yn ystod yr wthnos
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
Os ffoniwch y rhif a nodwyd eisoes, ond peidiwch â gwasgu 1 i ddweud bod gennych ffôn efo botymau, arhoswch i'r neges ofyn a ydych am siarad â rhywun Cymraeg (dweud 'yes' ar ôl y dôn) ac fe gewch siarad â Chymro/Cymraes. Er gwybodaeth, dwi wedi cael llawer mwy o sens gan y siaradwyr Cymraeg na'r rhai di-Gymraeg - rhyfedd de?