Siarad dwli?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Siarad dwli?

Postiogan Dwlwen » Mer 12 Mai 2004 11:34 am

Just ma's o ddiddordeb, oedd unrhywun arall yn siarad iaith ddychmygol pan o'n nhw'n fach? 'Nes i ddigwydd cofio neithiwr bo fi'n rhugl yn 'chwa' pan yn 7 oed.
Doedd hi ddim yn iaith brydferth na chymhleth - cymysgedd o gymraeg, saesneg a lol llwyr, gyda'r llefariaid wedi'u ail-drefnu a phwyslais anferthol ar y lythyren 'ch'.
Roedd tua 8 o ni'n siarad yr iaith yn y byd go iawn, ond gan fod cymeriadau gwahanol gan bob un ohonom i'w chwarae roedd o leia 30 siaradwr yng Ngwlad y 'chwa', gan gynnwys lolipop Lloyd, Doctor Glob, teulu brenhinol ysblenydd a hen fam-gu randi o'r enw Narn (fel Nain, chwel.)

Reit, na ddigon o fwydro am nawr, unrhywun â phrofiad tebyg?

ai i chwarae gyda'r tumbleweed
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Geraint » Mer 12 Mai 2004 11:40 am

Hehe, nais won.

Odd gennai iath fy hyn, dwi ond yn gallu cofio cwpl o eiriau nawr.
Swn tebyg i 'grrrngrrrrrn' oedd bisged. Doti oedd pensil. Gacor oedd tractor. Ac o ni'n galw lle o ni'n byw yn Llangnefi, nid Llangefni.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 12 Mai 2004 12:04 pm

ia, wel, ma pawb sy'n dod o langefni bach yn od! :winc:

ma dy iaith di'n swnio'n hollol cwl dwlwen, dysga hi i ni! oni'n siarad iaith braidd yn dislecsic pan oni'n fach ma'n debyg - deud "dodi" yn lle "diod", "cwni" oedd "cwmni", ac yn y blaen. ond ma pawb yn genud petha bach fela pan ma nhw'n fach yndi... yndi? :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan LMS » Mer 12 Mai 2004 12:18 pm

Oedd gen i iaith wahanol hefyd pan oeddwn yn fach! Deud pethe fel 'crips' yn lle 'crisps' a 'sgabeti' yn lle 'spageti'!!

Ond wedi meddwl, dwi'n siarad yn reit wahanol i lot o bobl nawr a dwi bellach yn y coleg!! :wps:
'Gwyn eu byd yr oes a'u clyw,
Myfyrwyr Bangor plant i Dduw.'
Rhithffurf defnyddiwr
LMS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 6:43 pm
Lleoliad: Caerfyrddin a Bangor

Postiogan Dwlwen » Mer 12 Mai 2004 12:20 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ma dy iaith di'n swnio'n hollol cwl dwlwen, dysga hi i ni! oni'n siarad iaith braidd yn dislecsic pan oni'n fach ma'n debyg - deud "dodi" yn lle "diod", "cwni" oedd "cwmni", ac yn y blaen. ond ma pawb yn genud petha bach fela pan ma nhw'n fach yndi... yndi?

Ydyn siwr Tracsiwt! Pan o'n i tua 3, fydden i'n aml iawn i'm gweld yn rhedeg ar ôl ieir yn gweiddi "jych, dad, jych al y lwlwlws!"
Ond iaith arall yw honno.

Sai wir yn cofio lot o iaith chwa i fod yn onest - 'mond ymadroddion fel 'troiwch y tchwm rowli-powli' - ond o'n i'm yn deall hynny hyd yn oed ar y pryd. Rwy'n cofio fwy am y pobl. Roedd gennym ni i gyd 'pic' er engraifft, sef marc geni amlwg oedd yn rhyw fath o status symbol yn ein gwlad... wrth ymgymryd â chymeriadau gwahanol buaswn yn pwyntio at leoliadau gwahanol ein 'pics' tra'n actio. Roedd gan Clôd (fel 'Claude', mynach oedd hwn) pic enfawr[tan fod rhaid pwyntio a'i law gyfan bron] ar ei ên - nid fi oedd yn chwarae rhan Clôd. Roedd y rhanfwyaf o'm mhics i'n ddigon discreet, diolch byth.


yn gyffredinol, :wps:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 12 Mai 2004 1:11 pm

:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Mwddrwg » Mer 02 Meh 2004 4:31 pm

odd gen i iaith fy hun o'n i'n siarad efo ffrind dychmygol o'r enw 'gud' am amser sylweddol yn ol y rhieni. dwi'm yn cofio fy hun... :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan carwyn » Mer 02 Meh 2004 8:52 pm

LMS a ddywedodd:Oedd gen i iaith wahanol hefyd pan oeddwn yn fach! Deud pethe fel 'crips' yn lle 'crisps' a 'sgabeti' yn lle 'spageti'!!


dwi'm yn cofio os oedd genna inne iaith wahanol, ond dwi'n cofio'n mrawd a chwaer fach yn deud crips a sgabeti. oedden nhw hefyd yn deud brocodil am frocoli, a rabadel am ymbarel.

sw'n i'n rhoi unrhywbeth i fod yn blentyn unwaith eto-bywyd mor hawdd a di-hasl 'doedd?
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
carwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 11:00 pm

Postiogan Ray Diota » Maw 16 Tach 2004 2:07 pm

edit = eistedd
liby = mêl (fy mrawd)

Hefyd, gyda fy ffrindiau Saesneg sbel fach yn ôl datblygodd iaith od iawn ar ôl blynyddoedd o fyw ynghyd ac wythnos o wyliau llawn alcohol. Mae'r iaith yn bodoli hyd heddiw ac yn lledu'n raddol. Canolbwynt yr iaith yw'r geiriau: FEAST, GAY, PAT (BUTCHER), POMME DE TERRE, WOE, SIN, EAT IT, MANGE TOUT ac IN YOUR FACE, DELIGHT, DESPAIR a'r un reol ramadegol oedd gorffen gymaint o eiriau â phosib 'da '-arge' neu da '-ery'.

Felly, wrth ofyn i'r bois a gafwyd noson dda y noson flaeorol:

-Night of delight, Pat?
-Utter feastery, mange out NEU - Total eclipse of the sin, Pat on a cock, much woe and drunken despair

un o'r brawddegau gorau a greais oedd wrth ddisgrifio lle cefais haliad hapus y diwrnod hwnnw:

'Janitor cupboard of delightful locked secrecy. Mange tout.'

:wps:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 16 Tach 2004 3:16 pm

Oedd ffrind i fi a minna'n arfar siarad am yn ol yn ysgol. Dwn im sut ffwc o'n i'n gneud o wir.

Ond dwi'n cofio chwerthin am tua awr solid ar ol sylwi fod Peach Slices yn swnio fel Cheap Cecils pan ti'n deud o am yn ol. :P

iasu dwi'n hawdd i'm diddori...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron