Dwi'm yn meddwl bod iaith fy hun gen i a dwi'm yn cofio unrhyw ffrindie dychmygol pan o ni'n blentyn ond ma na lot o eirie dwi'n dal i gam-ddweud. Yn ogystal a hynny dwi'n un gwael am ddarllen Saesneg yn llythrennol, gallai'm meddwl am air nawr ond yn aml ma'r fford dwi'n ynganu gair yn gwneud iddo feddwl rhwbeth itha gwahanol.
Oh ah dwi'n dal i alw wiwerod yn 'sgriwels', 'ponies' yn 'baba donkies', fy ffrind Emyr yn 'meme' a gwely yn 'bobo's', thanciw.