Just ma's o ddiddordeb, oedd unrhywun arall yn siarad iaith ddychmygol pan o'n nhw'n fach? 'Nes i ddigwydd cofio neithiwr bo fi'n rhugl yn 'chwa' pan yn 7 oed.
Doedd hi ddim yn iaith brydferth na chymhleth - cymysgedd o gymraeg, saesneg a lol llwyr, gyda'r llefariaid wedi'u ail-drefnu a phwyslais anferthol ar y lythyren 'ch'.
Roedd tua 8 o ni'n siarad yr iaith yn y byd go iawn, ond gan fod cymeriadau gwahanol gan bob un ohonom i'w chwarae roedd o leia 30 siaradwr yng Ngwlad y 'chwa', gan gynnwys lolipop Lloyd, Doctor Glob, teulu brenhinol ysblenydd a hen fam-gu randi o'r enw Narn (fel Nain, chwel.)
Reit, na ddigon o fwydro am nawr, unrhywun â phrofiad tebyg?
ai i chwarae gyda'r tumbleweed