Tudalen 1 o 1

Helpwch i Achub yr Iaith Saesneg!

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 4:11 pm
gan Jeni Wine
Newydd gael e-bost gan i-to-i (cwmni sy'n cynnig cyrsiau TEFL) o dan y pennawd yma:

Help Save The English Language

Delwedd

All hyn ddim cario mlaen. Rhaid i rywbeth ddigwydd, neu cyn pen dim mi fydd y Saesneg yn diflannu mewn llefydd megis Rwsia, Rachub ac Ecwador. Ymunwch gyda ni i sicrhau dyfodol i'r Iaith Vain ledled y byd!!

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 6:52 pm
gan Aran
rwan dw i'n teimlo'n euog am fod wedi dysgu Saesneg yn Zimbabwe a Dubai... :wps:

nes i ddysgu nhw bod Cymru'n wlad a dim yn rhan o Loegr hefyd, 'wchi... :)

erbyn feddwl... wedi gweld canlyniadau fy nysgu... ym... ella nad ydw i ddim wedi hyrwyddo'r iaith fain cymaint â hynny wedi'r cyfan... :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 7:17 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Gwych! Unrhyw un am ddod i angladd Chekhov gyda fi? :winc:

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 8:04 pm
gan Aran
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Gwych! Unrhyw un am ddod i angladd Chekhov gyda fi? :winc:


ah, gow on...

buasai'r hen foi'n torri ei galon i feddwl am yr iaith fain yn cael ei thrin mor wael, mae'n siwr... :winc:

dio'm actiwli'n gamgymeriad yn y Saesneg, nac ydy? cymaint â bod hi'n gamgymeriad ar ran cyfleu ystyr. son am fanylder... dychmygwch pe bai'r pobl yma'n cael eu cyf-ethol ar Gylch yr Iaith... :ofn: