Tudalen 1 o 2

Yr iaith hynaf yn Ewrop?

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:17 pm
gan nicdafis
Ai <a href="http://www.lib.helsinki.fi/bff/399/wiik.html">Ffineg yw'r iaith hynaf yn Ewrop</a>? Erthygl ddiddorol sy honni ei bod hi.

Ffeindiwyd ar <a href="http://metafilter.com/mefi/33712">metafilter</a>.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 2:57 pm
gan Aran
difyr - ond ydy o'n dadlau bod Ffineg yn iaith arbennig o hen neu bod hi'n dod o grŵp ieithyddol hen?

Basgeg, fel iaith yn lle na grŵp ieithyddol, sy'n ennill y dydd i mi... :winc:

er gwaetha'r ffaith bod pawb, hynny yw pawb, yn Ffinder yn anhygoel o hardd. hyd yn oed y cŵn...

a bod nhw'n hawlio bod modd deud cytseiniad am yn hiraf - 'na, na, roedd 'na ddau k yn hynny, felly mae'n swnio fel kk, nid fel k...'

o, ia, wela i... :ofn: :?:

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 3:06 pm
gan Mr Gasyth
Erthygl ddiddorol iawn, ac yn ddamcaniaeth wahanol i'r arfer ynglyn ag ymlediad gwahanol grwpiau iethyddol ar draws Ewrop.

Dwi'n meddwl mai be mae o'n honni ydi fod y Ffineg a'r Basgeg yn gydradd o ran oedran. Y ddwy ohonyn nhw yn oroeswyr o hen grwpiau ieithyddol - go brin fod y Fasgeg wedi aros yr un fath erioed ac mae'n siwr mai dim ond un iaith o grwp ieithyddol ehangach a arferai fodoli yw hithau hefyd.

Yn y pen draw, oni ellid dadlau fod pob iaith yr un oed, gan fod eu gwreiddiau i gyd yn mynd yn ol i'r un criw yna o bobl a adawodd Affrica faint bynnag o filoedd o flynyddoedd yn ol? Mae pryd mae iaith yn dod yn iaith annibynnol yn hytrach nag yn dafodiaith neu gangen o grwp ieithyddol ehangach yn fater anelwig iawn.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 4:50 pm
gan Dylan
'Dw i ddim yn siwr os 'dw i'n dallt y busnes "iaith hynaf" yma chwaith, oherwydd fel ddywedodd Aled, mae pob iaith yr un oedran os 'dan ni'n sylweddoli bod eu gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r un lle yn wreiddiol.

Ond 'dw i wastad yn ystyried Basgeg fel yr iaith "hynaf" (hwyrach "sydd wedi bod yn unigryw am y cyfnod hiraf" sydd orau) oherwydd mae wedi ei siarad yn yr ardal honno ers cyn cyfnod y Celtiaid. Sydd yn sbelan go hir.

PostioPostiwyd: Iau 17 Meh 2004 8:45 am
gan Mr Gasyth
ond mae Ffineg wedi'i siarad yn y Ffindir hefyd cyn cyfnod y Celtiaid ac yn wir cyn cyfnod unrhyw iaith Indo-Ewopeaidd arall.
Ond fel ddudes i cynt, a fel y cytunodd Dylan i raddau, di-bwys yw'r ddadl am iaith hynaf i raddau.
Be on i'n weld yn ddiddorol fwy na dim oedd y ddamcaniaeth fod y ieithoedd Celtaidd a Lladinaidd wedi datblygu o Indo-Ewropeaidd a 'Basgeg' tra bo'r ieithoedd Almaenig a Slafig yn datblygu o gysylltiad Indo-Ewropeaidd a Urdo-Ffinneg. Byddai hyn yn egluro pam fod y grwpiau yma o ieithoedd yn ymdebygu fwy i'w gilydd nag i'r lleill.

PostioPostiwyd: Iau 17 Meh 2004 9:44 am
gan Cardi Bach
O ran iaith hynnaf ayb, ond oes posib arddel llinach pendant rhai ieithoedd yn ol, bron yn ddi-dor i ryw gyfnod arbennig, ond ddim gydag eraill?

Er enghraifft gellir dadlau fod y Ffineg yn mynd yn ol, rhai miloedd o flynyddoedd ac mai ond wedi esblygu yn 'naturiol' mae hi - yn unol a'i hamgylchiadau, ond nid yw'n bosib dweud yr un peth am dyweder y Saesneg - dyw hanes Saesneg ddim yn mynd nol i gychwyniad pendant, ma'r saesneg heb os yn blentyn i fwy nag un iaith arall, ac er efallai fod tarddiad un o'r ieithoedd hynny yn mynd yn ol sawl milenia, gellir ddim dweud yr un peth am Saesneg.

Y ffordd orau y gallaf i ddisgrifio hyn yw fod Ffineg yn hen wr/fenyw sy'n sawl mil mlwydd oed, ac wedi dysgu sawl peth newydd dros y blynyddoedd.

Mae'r Gymraeg yn wr/menyw sy'n tua 1,500 mlwydd oed, ac yn blentyn i Frythoneg, ac mae'r Saesneg ond megis plentyn sy'n ta 800 mlwydd oed, ac yn blentyn i sawl iaith arall.

Odi hwnna yn neud synnwyr?
Erthygl ddifyr. Diolch Nic.

PostioPostiwyd: Iau 17 Meh 2004 10:58 am
gan Mr Gasyth
Ond sut wyt ti'n penderfynnu pryd marwodd y Frythoneg a ganed y Gymraeg? Fel arfer gosodir y newid hwn tua pan wahanwyd y Cymry oddi wrth eu cymrodorion Brythoniaid yng Nghernyw a'r Hen Ogledd, ond onid yr un iaith oedd hi mewn gwirionedd ond gyda ffiniau daearyddol newydd gan fod parhad di-dor o un i'r llall.
Mae dy bwynt am Saesneg yn gweneud synnwyr dwi'n meddwl gan na ellir dweud ei bod yn ddisgynydd i un iaith bendant ond yn hytrach yn gwadel o nifer o hen ieithoedd Germaneg a Norse gyda dylanwad Ffrengig sylweddol diweddarach.

PostioPostiwyd: Iau 17 Meh 2004 11:01 am
gan Cardi Bach
Aled a ddywedodd:Ond sut wyt ti'n penderfynnu pryd marwodd y Frythoneg a ganed y Gymraeg? Fel arfer gosodir y newid hwn tua pan wahanwyd y Cymry oddi wrth eu cymrodorion Brythoniaid yng Nghernyw a'r Hen Ogledd, ond onid yr un iaith oedd hi mewn gwirionedd ond gyda ffiniau daearyddol newydd gan fod parhad di-dor o un i'r llall.
Mae dy bwynt am Saesneg yn gweneud synnwyr dwi'n meddwl gan na ellir dweud ei bod yn ddisgynydd i un iaith bendant ond yn hytrach yn gwadel o nifer o hen ieithoedd Germaneg a Norse gyda dylanwad Ffrengig sylweddol diweddarach.


Ie, ffyri myff ynghylch y Frythoneg a'r Gymraeg - enghraifft wael. Ond mae bwrdwn y neges yn dal i sefyll.

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 1:43 pm
gan Aelod Llipa
Un peth sy'n ddiddorol am ddatblygiad ieithoedd yw pa mor daclus yw'r ffiniau, h.y sbiwch ar Gymru/Lloegr, neu Ffrainc/Almaen mae yna ffin reit bendant. Oes rhywun yn gwybod am enghraifft lle mae dwy iaith wedi cael eu cyfuno i greu iaith newydd h.y. pobl sy'n byw rhwng dwy wlad ac yn siarad hanner o un iaith, a hanner o'r llall (a dwi ddim yn siarad am Wenglish).
Mae'r Swisdir yn dod i'r meddwl, ond maent yn siarad 3 iaith wahanol sef Almaeneg, Eidaleg a Romanch, ond tydyn nhw ddim wedi cymusgu'r ieithoedd i greu un newydd fel y byddwn wedi ei ddisgwyl.

Aelod Llipa...

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 1:56 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Ynglyn a'r Swisdir-dwi ddim yn arbenigwr ar y pwnc yma o gwbl,ond efallai mai Schweizerdeutsch ac nid Almaeneg mae llawer o bobl Y Swisdir yn ei siarad fel iaith bob dydd (ond yn medru deall a darllen Hochdeutsch-Almaeneg safonol).Ydi Schweizerdeutsch yn defnyddio geiriau Ffrengig?Geiriau Eidaleg? Dim yn siwr.Mae yn peth yn sicr-mae'r busnas purdeb iaith,iaith safonnol,cymysgu ieithoedd,tafodiaith yn bwnc cymhleth a diddorol i Gymry Cymraeg...