Yr iaith hynaf yn Ewrop?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwestiwn...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 28 Meh 2004 1:59 pm

A yw Schweizerdeutsch (Almaeneg y Swisdir) yn iaith ynteu yn dafodiaith?
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Mr Gasyth » Llun 28 Meh 2004 2:07 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:Un peth sy'n ddiddorol am ddatblygiad ieithoedd yw pa mor daclus yw'r ffiniau, h.y sbiwch ar Gymru/Lloegr, neu Ffrainc/Almaen mae yna ffin reit bendant. Oes rhywun yn gwybod am enghraifft lle mae dwy iaith wedi cael eu cyfuno i greu iaith newydd h.y. pobl sy'n byw rhwng dwy wlad ac yn siarad hanner o un iaith, a hanner o'r llall (a dwi ddim yn siarad am Wenglish).
Mae'r Swisdir yn dod i'r meddwl, ond maent yn siarad 3 iaith wahanol sef Almaeneg, Eidaleg a Romanch, ond tydyn nhw ddim wedi cymusgu'r ieithoedd i greu un newydd fel y byddwn wedi ei ddisgwyl.


Mae'r enghreiftiau wyt ti'n eu nodi yn ieithoedd sydd yn perthyn i deuluoedd ieithyddol gwahanol a sydd felly yn hollol wahanol i'w gilydd o ran strwythr a geirfa. Tydi'r ffin ddim bob amser mor glir, ac yn aml mae dynodi rhywbeth yn 'iaith' yn hytrach na 'thafodiaith' yn benderfynniad gwleidyddol ac yn adlewyrchu unedau gwleidyddol gwahanol.
Er enghraifft, prin yw'r gwahaniaeth rhwng Iseldireg a'r Almaeneg a siaredir o ddyd i ddydd dros y ffin yng ngogledd orllewin yr Almaen. Mae llawer mwy o whaniaeth rhwng Almaeneg gwahanol rannau o'r wlad honno na sydd yna rhwng Iseldireg a'i chymdogion Almaenaidd agosaf ati. Mae'r un peth yn wir am Iseldireg a Fflemeg - petai Fflandrys yn ran o'r Iseldiroedd yn hytrach an Gwlad Belg go brin byddai'n cael ei hystyried yn iaith wahanol o gwbwl.
Mae'r un peth yn wir am Norwyeg a Daeneg. Daeth Norwyeg ond i gael ei hystyried in iaith wahanol wedi i norwy ddod yn annibynnol o Denmarc, a credwyd bod cael iaiith ei hun yn bwysig i hunaniaeth y genedl newydd.
yn aml mae tafodieithoedd ardaloedd sy'n ffinio dwy iaith lled-debyg yn rhannu nodweddion o'r ddwy iaith wahanol, er enghraifft ar ffin Ffrainc a'r Eidal. Hefyd mae Corseg rhywle yn y canol rhwng Ffrangeg ac Eidaleg, a Chatalaneg yn rhannu nodweddion a Sbaeneg a Ffrangeg.

Petai Cymru ar ryw adeg yn y gorffennol wedi rhannu yn ddwy wlad wahanol, debyg iawn y bydai 'Gog' a 'Hwntw' yn cael eu hystyried yn ieithoedd gwahanol er mwyn adlewyrchu y sefyllfa wleidyddol a fyddai'n bodoli.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan nicdafis » Llun 28 Meh 2004 3:54 pm

Wel, dyna'n union beth digwyddodd, a sut datblygodd Cernyweg a Llydaweg yn ieithoedd ar wahan i'r "Gymraeg go iawn" yn lle tafodieithoedd. Yn nyddiau'r Hen Ogledd, byddai wedi bod yn bosib i deithio o Gaeredin i Ffinistêr yn clywed tafodieithoed gwahanol o'r un iaith, ac i bobl oedd yn teithio lot, fyddai fe ddim wedi bod yn fwy anodd nag yw e i ni sy'n gwylio lot o deledu Cymraeg, ac sy'n clywed bob tafodiaith Cymru (er bod ni'n jocan o hyd am y blydi Gogs, dwyt ti ddim yn clywed cymaint o'r hen fyth nad ydyn ni'r Cymry ddim yn gallu deall ein gilydd bellach). Yr unig rheswm mae gennym dair iaith erbyn hyn yw bod y cysylltiad rhwng yr ardaloedd Brithoneg wedi'i dorri cyn i ni gael S4C ;-)

(Mae gan y Swisdir 4 iaith, am wn i; Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg â statws llawn, a'r Romansch â rhyw statws hanner-a-hanner fatha'r Gymraeg.)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chris Castle » Mer 30 Meh 2004 8:10 am

Son am Hochdeutsch yn atgofia fi o gyfweliad ar radio Cymru gyda Cymry Tatws. Y cwestiwn oedd "Ydych yn darllen llyfrau Cymraeg?" - llyfr y blwyddyn wnaeth ysbridoli'r peth.

Dwedodd un hen ferch "Nadi siwr haha!" (fel oedd yn gwestiwn dwp)
"Pam Nadi?"
"WEl, DDIM YN DALLT Y GIRIE DWI!" oedd yr ymateb.

Dwi wedi cwrdd ag almaenwyr sy'n dweud eu bod nhw ddim yn deall ei gilydd o gwbl heblaw am y Hochdeutsch. A dwedodd Saeson (bu ddysgu Almaeneg) i bobl y Dde gredu taw Gogleddwr oedd e, gan oedden nhw gwybod doedd e ddim yn ddyn leol, ac er oedd ei Almaeneg yn dda, oedd acen cryf arno a geiriau Saesneg yn ei Almaeneg doedden nhw ddim yn deall.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Yr iaith hynaf yn Ewrop

Postiogan Sion Jobbins » Iau 01 Gor 2004 12:17 pm

Dwi ddim yn gwybod am hynaf ond un o'r rhai ifancaf yw Afrikaans. Nid iaith 'gwyn' o gwbwl! iaith a dyfodd allan o 'fratiaith' (ie'r, gair yna Chris!) a siaradwyd gan morwynion 'coloured' wrth iddynt fagu plant gwyn yr Iseldirwyr. Roedd y 'bratiaith' yma yn cynnwys dylanwad Portugeg (lingua francia teithwyr y mor ar y pryd), Malay (o le ddaeth nifer o'r caethwaesion) ac ychydig o Khoi ac Iseldireg wrht gwrs.

Un o nodweddion Afrikaans, o'r hyn a ddeallaf, yw ail-adrodd gair er mwyn creu gair newydd (ychydig fel da-da am losin yn Gymraeg).

Mae'r Iseldirwyr yn credu fod Afrikaans yn swnio'n blentynadd - ymateb yr Afrikaans i hyn yw fod Isledireg yn swnio'n farw!

Ysgrifenwyd y llyfr cyntaf mewn Afrikaans (ac nid Isledireg - sef yr iaith safonol i'r Afrikaaners tan ddiwedd yr 20G) yn y wyddor Arabaidd yn Nhwrci gan genhadon Mwslemaidd oedd yn ceisio ad-ennill eneidiau y Cape Coloured (nifer ohonynt yn Fwsleimiaid gan eu bod yn dod o Malaysia'n wreiddiol) at Allah.

Mae'n swnio'n iaith wych - ac mae mwyafrif ei siaradwyr yn bobl nad ydynt yn wyn. Pe na bai idiots hiliol wedi ei herwgipio a pe na bai Prydain wedi cipio'r Cape yn 1802, dyma fyddai lingua franca deheudir Affrica heddiw.

Gyda llaw, mae Fankulo (?) yn 'iaith' a ddatblgwyd o siaradwyr uniaith Zulu, Xhosa etc ac Afrikaans ac yn cael ei siarad gan weithwyr mwyngloddiau aur ardal Gauteng (J'berg gynt). Ddim yn gwybod lot am hwn.

Sion

ON - sgwennes i erthygl am yr iaith yn un o rifynnau cyntaf Tu Chwith os oes gan unrhyw un ddiddordeb o gwbwl!

ONN - gan obeithio nad oes neb o'r Blaid Lafur am fy nghyhuddo o gefngi Eugine Terre'blanche am i mi sgwennu a chlodfori Afrikaans! :winc:
Cymraeg yw Iaith y Ddinas
Sion Jobbins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chris Castle » Iau 01 Gor 2004 3:24 pm

Sion Jobbins a ddywedodd: fi'n gefnogi Eugine Terre'blanche


Ti y'i dwedest inni :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Geraint » Iau 01 Gor 2004 4:44 pm

Mae peth o'r trafodaeth yma yn fy atgoffa o George Borrow (yn Wild Wales) yn cael ei gymryd am rhywun o'r de yn y gogledd a vice versa. Wedi dysgu'r iath oedd o, ond gan nad oedd bron neb yn neud hyn yn yr 19G, cymryd mae o'r de/gog oeddent.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan dave drych » Llun 05 Gor 2004 1:17 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:Un peth sy'n ddiddorol am ddatblygiad ieithoedd yw pa mor daclus yw'r ffiniau, h.y sbiwch ar Gymru/Lloegr, neu Ffrainc/Almaen mae yna ffin reit bendant. Oes rhywun yn gwybod am enghraifft lle mae dwy iaith wedi cael eu cyfuno i greu iaith newydd h.y. pobl sy'n byw rhwng dwy wlad ac yn siarad hanner o un iaith, a hanner o'r llall


Trwy gydol hanes mae pobl ger 'ffin' iaith wedi defnyddio lingua franca sef iaith oedd yn cyfuno dwy/tair iaith. Roedd yn cael ei ddefnyddio lot yn ardal y Rheine yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Dwi'n siwr bod rhai lingua franca efo statws iaith eu hunain. Roedd Aramaieg yn y Dwyrain Canol yn enghraifft o l.f. Gall dadlau hefyd bod Saesneg yn l.f. oherwydd yr intergreiddio rhwng y llwythi gwahonol.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Re: Aelod Llipa...

Postiogan sanddef » Iau 02 Rhag 2004 1:14 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Ynglyn a'r Swisdir-dwi ddim yn arbenigwr ar y pwnc yma o gwbl,ond efallai mai Schweizerdeutsch ac nid Almaeneg mae llawer o bobl Y Swisdir yn ei siarad fel iaith bob dydd (ond yn medru deall a darllen Hochdeutsch-Almaeneg safonol).Ydi Schweizerdeutsch yn defnyddio geiriau Ffrengig?Geiriau Eidaleg? Dim yn siwr.Mae yn peth yn sicr-mae'r busnas purdeb iaith,iaith safonnol,cymysgu ieithoedd,tafodiaith yn bwnc cymhleth a diddorol i Gymry Cymraeg...


Mae Almaenwyr y Swistir yn siarad Schweizerdeutsch sydd yn anealladwy i siaradwyr Hochdeutsch,ond did o achos defnyddio geiriau estron ydy.Maent yn dysgu Hochdeutsch yn yr ysgol(nid Schweizerdeutsch) a maent yn ei siarad yn rhugl efo pobl sydd ddim yn gallu'r Schweizerdeutsch.Enghraifft o wahaniaeth y ddwy iaith ydy fod y gair "diminutive" am fuwch yn y ddwy iaith fel hyn:
(Hochdeutsch) "Kuhe"+"-chen"=Kuh(e)chen
(Schweizdeutsch) "Kuhe"+ "-alig"= Kuhalig (a ynganir yn union fel y gair Cymraeg "chwalu").
Mae ganddynt hefyd acen "sing-song" fel yr Hwntws.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Yr iaith hynaf yn Ewrop?

Postiogan sanddef » Iau 02 Rhag 2004 1:16 pm

nicdafis a ddywedodd:Ai <a href="http://www.lib.helsinki.fi/bff/399/wiik.html">Ffineg yw'r iaith hynaf yn Ewrop</a>? Erthygl ddiddorol sy honni ei bod hi.

Ffeindiwyd ar <a href="http://metafilter.com/mefi/33712">metafilter</a>.


Efallai yn y Llychlyn ond mae'r Basgiaid (ein gwir gyndadau ni) a'u hiaith wedi bod yng ngorllewin Ewrop ers 12000 o flynyddoedd(O LEIAF!).
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai