Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw
Aelod Llipa a ddywedodd:Un peth sy'n ddiddorol am ddatblygiad ieithoedd yw pa mor daclus yw'r ffiniau, h.y sbiwch ar Gymru/Lloegr, neu Ffrainc/Almaen mae yna ffin reit bendant. Oes rhywun yn gwybod am enghraifft lle mae dwy iaith wedi cael eu cyfuno i greu iaith newydd h.y. pobl sy'n byw rhwng dwy wlad ac yn siarad hanner o un iaith, a hanner o'r llall (a dwi ddim yn siarad am Wenglish).
Mae'r Swisdir yn dod i'r meddwl, ond maent yn siarad 3 iaith wahanol sef Almaeneg, Eidaleg a Romanch, ond tydyn nhw ddim wedi cymusgu'r ieithoedd i greu un newydd fel y byddwn wedi ei ddisgwyl.
Aelod Llipa a ddywedodd:Un peth sy'n ddiddorol am ddatblygiad ieithoedd yw pa mor daclus yw'r ffiniau, h.y sbiwch ar Gymru/Lloegr, neu Ffrainc/Almaen mae yna ffin reit bendant. Oes rhywun yn gwybod am enghraifft lle mae dwy iaith wedi cael eu cyfuno i greu iaith newydd h.y. pobl sy'n byw rhwng dwy wlad ac yn siarad hanner o un iaith, a hanner o'r llall
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Ynglyn a'r Swisdir-dwi ddim yn arbenigwr ar y pwnc yma o gwbl,ond efallai mai Schweizerdeutsch ac nid Almaeneg mae llawer o bobl Y Swisdir yn ei siarad fel iaith bob dydd (ond yn medru deall a darllen Hochdeutsch-Almaeneg safonol).Ydi Schweizerdeutsch yn defnyddio geiriau Ffrengig?Geiriau Eidaleg? Dim yn siwr.Mae yn peth yn sicr-mae'r busnas purdeb iaith,iaith safonnol,cymysgu ieithoedd,tafodiaith yn bwnc cymhleth a diddorol i Gymry Cymraeg...
nicdafis a ddywedodd:Ai <a href="http://www.lib.helsinki.fi/bff/399/wiik.html">Ffineg yw'r iaith hynaf yn Ewrop</a>? Erthygl ddiddorol sy honni ei bod hi.
Ffeindiwyd ar <a href="http://metafilter.com/mefi/33712">metafilter</a>.
Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai