Y Simpsons yn siarad Cernyweg

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Simpsons yn siarad Cernyweg

Postiogan Barbarella » Llun 05 Gor 2004 4:14 pm

Bydd Lisa yn dweud "rydhsys rag Kernow lemmyn" (Rhyddid i Gernyw) mae'n debyg -- gweler <a href="http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/cornwall/3866927.stm">stori gan y BBC</a>.

Bues i'n darllen <a href="http://www.amazon.co.uk/exec/obidos/ASIN/0140289216/qid=1089043796/ref=sr_8_xs_ap_i2_xgl/202-8473394-3647062">llyfr difyr iawn am Sosio-ieithyddiaeth</a> :wps: wel dwi'n meddwl bod o'n ddifyr ac roedd hwnnw'n dweud bod y Gernyweg wedi marw, tra o'n i dan yr argraff bod tipyn dal i'w siarad hi. Be di hanes nhw?
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Aran » Llun 05 Gor 2004 6:40 pm

Mae hi bob tro'n syndod i mi (dysgu'n araf, 'wsti) mor aml mae llyfrau/cymdeithasau/pobl a ddylai wybod yn well yn deud bod yr iaith hon a hon 'wedi marw'... :ofn:

Bu farw'r siaradwraig iaith gyntaf olaf peth amser yn ôl (1777), ond mae'r iaith wedi'i hatgyfnodi gan academyddion a bellach yn cael ei dysgu mewn nifer o ysgolion (mae'n bosib sefyll TGAU Cernyweg) - ac mae rhai teuleuodd yn magu eu plant yn ddwyieithog. Mae gen i gyfaill (sydd yn gynghorydd ar gyfer Mebyon Kernow) sydd â nai sy'n siarad Cernyweg fel mam iaith hollol naturiol.

Gwybodaeth da i'w gael yn <a href='http://www.wordiq.com/definition/Cornish_language'>fan hyn</a>.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 05 Gor 2004 6:44 pm

Mae Gwenno Saunders yn siarad Cernyweg yn rhugl ydi?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan garynysmon » Llun 05 Gor 2004 9:53 pm

Dwi'n cofio darllen yn rhywle fod ei Thad o Gernyw, a mai dyna ydi iaith y Cartref, a mae hi'n canu yn y iaith hefyd. Saesneg yw ei thrydydd iaith dwi'n credu.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 06 Gor 2004 8:32 am

Roedd merch ar fy nghwrs i yn y brifysgol yn siarad Cernyweg. :D Ond nid ei mamiaith oedd hi - ei rhieni oedd wedi dysgu'r iaith ac yna ei throsglwyddo i'r plant.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan S.W. » Maw 06 Gor 2004 8:37 am

Gallai'r rhaglen yma fod yn dda iawn i'r iaith Cernyweg, gan greu mwy o ymwybyddiaeth, yn enwedig ymysg pobl ifanc Cernyw am eu iaith, eu hanes a'u diwylliant.

Gallai hyd yn oed bod yn dda i'r ieithoedd celtaidd eraill wrth i sylw rhyngwladol gael ei rhoi i'r ffaith bod ieithoedd eraill yn bodoli ym Mhrydain ar wahan i Saesneg.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan bartiddu » Maw 06 Gor 2004 8:54 am

O's rhai ohonoch yn gwybod am wefan neu rhywle lle fedrwch gwrando ar glipiau o'r iaith yn cael ei siarad?
Bues yn chwilio bach nithwr, ac mae'n debyg fod radio 'BBC Cornwall' yn darlledu bach o Gernyweg, ond o'dd dim ar ei gwefan i wrando ar, a phob linc arall darganfyddes yn honni eu bod hwy gyda clipiau o'r iaith ddim yn gweithio. :?
Bues yn ymdrechu i ddarllen bach o'r iaith o'r gwefannau, a diawl, oni medru gwneud synnwyr o tua 40%-50%.. diddorol! :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 06 Gor 2004 9:30 am

Roedd Futurama wedi rhoi cymraeg mewn un pennawd. Dwi'n meddwl roedd y cymeriad yn dweud 'Dwi wedi meddwi'n chwerw'.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Maw 06 Gor 2004 9:32 am

Win credu fod darn o Gernyweg yngyd a Manaweg a Llydaweg i'w clywed ar wefan Cymru'r Byd rhywle. A tad Gwenno Saunders sy'n darllen y darn Cernyweg.
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

YSimpsons yn siarad Cernyweg

Postiogan Sion Jobbins » Maw 06 Gor 2004 2:49 pm

... dau gwefan Cernyweg un yn y Gernyweg a'r llall yn y Saesneg.

http://www.geocities.com/cornishnews/

http://www.justcornish.com/phpBB2/index.php


Sion
Cymraeg yw Iaith y Ddinas
Sion Jobbins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron