Sawl person ma'n gymryd i adnewyddu trwydded deledu?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sawl person ma'n gymryd i adnewyddu trwydded deledu?

Postiogan chicken lips » Iau 22 Gor 2004 10:09 am

Dwi'n hollol filan :drwg:
Newydd ffonio llinell adnewyddu trwydded deledu ac yn disgwl trafod efo rhywun yn Gymraeg. DIM cal rhyw ffycin sgwrs thri-we lle dwi'n deud wbath-boi Cymraeg yn 'i gyfieithu o- cal ateb yn saesneg ( a finna'n clwad hyn i gyd)- yna'r sgwrs yn cael ei gyfieithu nol i'r Gymraeg i mi. Ffycin gwarth o beth. Ma'r gwasanaeth yma'n HOLLOL, HOLLOL annigonol ac yn cymryd y piss GO-IAWN.
O'n i wedi clwad am hyn ar Radio Cymru'n reit ddiweddar, ond wan mod i 'di cael y profiad dwi methu credu sut ma disgwyl i ni fodloni ar wasanaeth eilradd sy'n gwbwl ffycin annerbyniol!!! Grrrr!!!! :drwg:


O's na rywun arall di cal y profiad?
Rhithffurf defnyddiwr
chicken lips
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 129
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 10:36 am
Lleoliad: Ar gadar yn swuflo

Postiogan Geraint » Iau 22 Gor 2004 10:25 am

Ffonies i wythnos dwetha. O ni'n digon lwcus i gael ferch o'r enw Beci a oedd yn siarad Cymraeg. Ond ma fy mrawd wedi cael y profiad thri-we.

Lle ma'r swyddfa?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan chicken lips » Iau 22 Gor 2004 10:34 am

Dwn i'm deu gwir - y rhif ffon di 0870 241 5698 - cod lledi hwnna da?
Rhithffurf defnyddiwr
chicken lips
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 129
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 10:36 am
Lleoliad: Ar gadar yn swuflo

Postiogan Geraint » Iau 22 Gor 2004 10:39 am

Gennai deimald mae ym Mryste mae nhw, a does na'm swyddfa yng Nghymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mr Gasyth » Iau 22 Gor 2004 10:55 am

Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Gog yn y De » Iau 22 Gor 2004 12:36 pm

Dwi 'di cael sgwrs gyda nhw sawl gwaith rwan, bob tro trwy cyfiethu o Gymraeg i Saesneg ac wedyn Saesneg i Cymraeg.

Dwi'n teimlo'n fod mae'r Saes ar ochor arral y ffon yn meddwl fod ni'n thic neu rhywbeth achos mae'n nhw'n gwybod y fod ni'n gallu clywed be' mae nhw'n dweud AC fod ni'n medru deallt nhw hefyd.

Blydi nerf.
Rhithffurf defnyddiwr
Gog yn y De
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 75
Ymunwyd: Mer 21 Gor 2004 12:44 pm
Lleoliad: Rhywle yn wlad yr hwntw

Postiogan Rhys » Iau 22 Gor 2004 12:47 pm



Byddwn i ddim yn synnu petai hyn wedi cael ei gymeradwy gan y Bwrdd, er does dim prawf gyda fi. Bydda nhw'n gallu dadlau eu dod yn cyflawni eu dyletswydd o ddarparu gwasanaeth dwy-ieithog, ond blydi hel, mae'n neud i chi teimlo fel pleb (wfach dyna'f bwfiad :ofn: )
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dandydrwyn » Sul 01 Awst 2004 4:20 pm

Ges i y profiad hyn hefyd. Roedd e'n patronising ofnadwy. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Dandydrwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Iau 08 Gor 2004 10:59 pm
Lleoliad: Pianosa

Postiogan S.W. » Llun 02 Awst 2004 1:40 pm

Dwi di cael "threesome" gyda'r Asiantaeth Trwydded Teledu hefyd!

Roedd on andors o job i fi unai peidio a byrstio allan yn chwerthin neu pan oedd y cyfieuthydd yn deud wrthai'n Gymraeg be oedd y person arall wedi ei ddweud yn Saesneg tori ar ei draws a deud "ia dwin gwbod be ddudodd o..."
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai