Tudalen 1 o 1

Cerdyn YG Cymraeg (Yswiriant Gwladol)

PostioPostiwyd: Gwe 23 Gor 2004 10:51 am
gan Gog yn y De
Ar ol uffern o drafferth, dwi 'di cael fy nwylo ar cerdyn YG (National Insurance) Cymraeg. I dweud y gwir, mae'r cerdyn mewn Saesneg a Cymraeg ond dim bwys.

Dwi'n meddwl mae'r cerdyn yma yn cael eu anfon i pobl sydd wedi troi 18 neu rhywbeth ac yn fyw yn Cymru. Os dych chi wedi cael un yn barod neu methu dod o hyd iddo, dyma siawns da i chi gorfodi'r Sais yn Newcastle i gwneud un i chi. Os mae nhw'n cwyno fel ddaru nhw gwneud gyda fy nghais i, wel dyna siawns i chi cicio i ffwrdd gyda'r system.

Ffonio Lorna (Bangor) ar 01248 363 552 neu ffacs ar 01248 363 559. Mae hi'n awyddus i helpu chi ac yn doniol hefyd!

Dwi'n gwybod fod y cerdyn yma yn di-werth ond dim bwys.

Defnyddiwch y gwasanaeth yma neu collwch o, neu rhywbeth fel 'na!