Erthygl ddiddorol yn y Guardian wythnos diwetha' am lwyth ym Mrasil sydd yn cael trafferth cyfri oherwydd dim ond tri gair sydd ganddynt ar gyfer cyfri: "un, dau, lot"
diddorol iawn. Wedi bach mwy o chwilio ('sgen i ddim byd gwell i wneud), dyma erthygl arall: Reuters
Wedi bod yn bembleth i ieithyddwyr ers tipyn, yn ôl y sôn. Swnio'n rhyfedd i ni, ond eto mae nhw'n bobl ddeallus ac yn ymdopi yn berffaith iawn yn eu cynefin eu hunain diolch yn fawr iawn.