Dafydd a ddywedodd:Yn reddfol mae babis yn gwybod y syniad o 'un peth' (rhywbeth mewn un llaw), 'dau peth' (rhywbeth yn y ddwy law). Mae 'tri peth' yn datblygu nes ymlaen pan fod y llygaid/ymennydd yn gallu cymharu rhwng gwrthrychau (pel mewn un llaw, pel tebyg mewn llaw arall a pel tebyg ar y llawr). Os oedd addysg ddim yn gorfodi ni i ddysgu cyfri popeth, fase'r ymennydd ddim yn gwybod dim am rifo.
Wy'n cofio gweld rhaglen unwaith am rhieni oedd am feithrin geniuses - 'oedd na blentyn 4 mlwydd yn gwybod y sonnets i gyd er engraifft (mae'n siwr odd hi'm yn deall ystyr un ond mater arall yw 'ny)...
O rhan sgiliau mathamategol, roedd 'na rhieni'n hyfforddi babis mor ifanc a thair mis (os wy'n cofio'n iawn), drwy dangos cardiau lluosi iddyn nhw - sef un cerdyn a 2 ddot, y nesa a 4, y nesa ag 8 a.y.y.b. Mae'n debyg bod gennym ni ddeallusrwydd o niferoedd o'r oed ifanc yma, ond mater cymhleth iawn yw trosglwyddo'r deallusrwydd hynny i'r côd o symbolau a iaith ry'n ni wedi'i ddatblygu i'w fynegi... Un mympwyol yw'r berthynas rhwng y syniad a'r modd o'i fynegi sbo.
Ma ieithoedd yn declynnau cymdeithasol tra diddorol, mae'n rhyfeddol cymaint ry'n ni cyfathrebu drwyddynt heblaw'r geiriau sy'n eu creu.