gan Fflamingo gwyrdd » Sul 11 Medi 2005 10:02 am
Mae bendant yn fantais gallu cyfathrebu â cleifion yn eu mhamiaith.
Yn fy nghriw i yng Nghaerdydd, pan ddethon ni i Gaerdydd gynta roedd -
5 o Gymry Cymraeg
3 o Gymry di-Gymraeg
1 Sais
Yn ystod y flwyddyn gynta, fe aeth y Sais ac un o'r Cymry di-Gymraeg i wersi Cymraeg oedd yn cael eu trefnu gan y Brifysgol. Bellach, mae'r ddau yn 'tebol i siarad yn Gymraeg gyda'u cleifion - y Sais wedi gwneud yn anhygoel o dda (wedi gwneud lefel A bellach), a'r Cymro di-Gymraeg wedi gwneud yn ddigon del hefyd.
Mae'r criw gwreiddiol hwnnw yn dal i weithio fel meddygon mewn ysbytai yn, ac o amgylch Caerdydd. Ers gallu cyfathrebu yn Gymraeg, mae'r ddau wedi gallu cyfri ar un law y nifer o weithiau y maent wedi gallu defnyddio'r iaith gyda cleifion. Dwi ddim yn deud eu bod nhw'n difaru - achos mae'n gret eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg gyda'r gweddill ohonom ni. Ond dwi'n amau fod gorfodi'r 300 (neu faint bynnag ydi o bellach) i ddysgu Cymraeg yn ystod eu cwrs meddygaeth, yn damed bach o overkill yn enwedig pan fo'r mwyafrif ohonynt yn mynd i fod yn gweithio mewn ysbytai yng Nghaerdydd a Chasnewydd lle mae poblogaeth enfawr o bobl sy'n siarad ieithoedd eraill fel eu mhamiaith. Os mae'r ddadl yw y dylai meddygon allu cyfathrebu gyda'u cleifion yn eu mhamiaith, yna byddai cwrs mewn "cyfathrebu syml" yn yr ieithoedd hyn yn fwy o fudd na'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae'n wir dweud fod dweud hyn yn mynd yn groes i'r graen, achos mai yng Nghymru ydyn ni, ond dyma realiti.
Ar y llaw arall, dwi wedi gweithio blwyddyn mewn practis (eto, mewn lle nad yw Cymraeg i'w glywed yn aml ar y stryd fawr), ac wedi dod ar draws mwy o Gymry Cymraeg na fy ffrindiau sy'n feddygon mewn ysbytai. Dwi'n credu mai'r rheswm am hyn yw fod y cleifion o'n i'n weld ar ddechrau fy mlwyddyn wedi pasio'r neges ymlaen i eraill i ddweud fod posib cael triniaeth drwy'r Gymraeg yno. Ac felly, ges i lawer o gleifion oedd yn Gymru Cymraeg yn cofrestru o'r newydd. Mae hyn yn awgrymu fod yn well gan bobl allu siarad Cymraeg. Mi fyddai hyn wedi bod yn wych i fi ac i'r cleifion (ac i'r busnes!!), ond yn anffodus (i'r achos yma) symud ymlaen nes i, a mae nhw bellach yn cael eu trin drwy'r Saesneg. A dyma sy'n digwydd yn yr ysbytai hefyd. Mae meddygon ysbytai yn symud yn aml ac felly ddim yn creu yr un math o rapport efo'u cleifion a meddygon practis.
Felly, os bydd fy ffrind sy'n Sais sydd â Chymraeg perffaith bellach yn sefydlu/gweithio mewn practis, bydd yn grêt, achos dwi'n siwr y byddwn ni'n gweld cnewyllyn o Gymry Cymraeg yn symud tuag ato (ymha bynnag ardal). Ond tra mae o'n gweithio yn un o ysbytai'r ardal, prin iawn iawn y bydd o'n defnyddio'i Gymraeg. Ar y llaw arall, 'sa fo'n symud i ysbyty Gwynedd, 'sa'r stori'n wahanol.
Achos hynna i gyd (!) - dwi'n meddwl ei bod hi'n sefyllfa anos na ma rhai ohonoch chi'n feddwl. Ma' gin i ofn na 'sgin i ateb, ond ella annog y meddygon hynny sy'n gweithio mewn ardaloedd 'Cymreig' i ddysgu'r iaith. Ella fod isho mwy o addysg arnyn nhw i sylweddoli FOD Cymraeg yn famiaith i gymaint o'u cleifion. Dwi'n gwybod i sicrwydd fod llawer o'r meddygon ddim hydynoed yn sylweddoli hyn. Mae rhywun siwr o ddadlau y dylid gallu siarad Cymraeg ymhob rhan o Gymru er mwyn gallu trin Cymry Cymraeg Caerdydd a Chasnewydd (er engraifft), ond fel popeth arall yn y cwrs meddygaeth - mae rhai pethau, cyflyrau, salwch ayyb yn digwydd mor anaml, gwell fyddai i dreulio'r amser yn dysgu sut i ddelio a phethau, cyflyrau salwch ayyb sydd yn digwydd yn aml. Mewn bywyd real, yn anffodus, dwi ddim yn gweld ei bod yn economaidd i ddysgu Cymraeg i holl is-raddedigion meddygaeth Caerdydd. A phrun bynnag, mae canran uchel IAWN o'r meddygon sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd wedi cael eu haddysg tu hwnt i Glawdd Offa a phellach, a bydd canran uchel o'r rhai sy'n cael eu haddysg yng Nghaerdydd yn diflannu'n ôl dros Glawdd Offa. Ar hyn o bryd, dwi'n meddwl y gallwn ni ond diolch fod 'na ambell un fel Dave sydd wedi dysgu'r iaith yn wych, ac yn ei defnyddio. Efallai byddai'n well rhoi ychydig o addysg i ddangos fod hyn o fantais ac yn bosibl fel y gall meddygon ddysgu'r iaith o'u dewis eu hunain. Wedi'r cwbl, sut mae disgwyl i is-raddedigion o Loegr a thu hwnt gymryd gwersi Cymraeg gorfodol o ddifri pan nad ydyn nhw'n clywed llawer o'r iaith o ddydd i ddydd? Dwi'n ama'n gryf mai un o'r rhesymau pam na wnaeth y ddau Gymro di-Gymraeg arall ddysgu Cymraeg tra'n is-raddedigion oedd am eu bod wedi eu mhagu yn yr ardal ac yn ymwybodol o cyn-lleied o'r iaith sydd ar "y stryd".
Sori nad oes 'na lawer o "drefn" i'r tryth uchod. Dwi'n gwybod fod ambell i beth 'dwi'di sgwennu yn controfyrshal, ond os darllennwch chi o i gyd, mi sylweddolwch nad ydi fy marn i'n gontrofyrshal! (felly, plis peidiwch a thynnu brawddegau allan o'i cyd-destun!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...