Doctoriaid Cymraeg [Heb erioed wedi teimlo'n manky...]

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylai doctoriaid yng Nghymru ddysgu Cymraeg?

Ai
35
92%
Nowehose
3
8%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 38

Postiogan Sili » Gwe 09 Medi 2005 10:50 pm

Gethin Ev a ddywedodd:Ddigwydd bod Almenwr ydi'n nhoctor i, a i ddeud gwir dwi reit falch bod o wedi dod drosodd yma, gan dyda ni ni ddim fatha cenedl ddim yn creu doctorion.


Beth yn union ti'n feddwl yn fama, ddim yn creu doctorion? Beth am ysgol feddygaeth Caerdydd a'r holl brees sy'n cael ei bwmpio mewn idda fo? Ac fel ddudodd Al, y syniad o greu linc rhwng y brifysgol yn fama ac un newydd ym Mangor? (a Wrecsam hefyd yn ol y son). Mae yna ddigon o stiwdants efo'r potensial i fod yn ddoctoriaid Cymraeg gwych, ond mae yna lawr gormod sy'n colli allan ar y cyfla gan fod gormod o ddoctoriaid yn mewnfudo iBrydian ac i Gymru. (Os mai dyma odd dy bwynt di :wps: )
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan 7ennyn » Gwe 09 Medi 2005 10:59 pm

Dyna beth od! Fuis i yn Brynberyl, ooooo, tua 20 mlynadd yn ol pan o'n i'n fach ar ol cracio mhenglog (ma'r graith dal gennai), ac oedd yn rhaid i mi gyfri yn ol o gant hefyd! Ond i nyrs Gymraeg oedd rhaid i mi wneud hynny - trio cadw fi'n effro tra roedd yr ambiwlans ar ei ffordd i fynd a fi i Sbyty Gwynedd.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y personnau sydd yn gwneud y diagnosis ac sydd yn monitro'r claf yn gallu'r Gymraeg. Ond, dwi ddim yn meddwl bod rhaid i lawfeddygon a.y.y.b. allu'r iaith cyn belled bod y GP wnaeth y diagnosis neu'r nyrsus sy'n monitro'r claf yn gallu cyfathrebu yn effeithlon hefo nhw.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 09 Medi 2005 11:31 pm

Be di'r ots be di'r swydd? Oni ddylai pawb yng Nghymru siarad Cymraeg.? Dwi erioed wedi torri gair gyda'r dyn casglu sbwriel (mae o'n dod yma cyn imi godi, fel arfer) ond pe bai na phleidlais ar y Maes yn gofyn a dylai casglwyr sbwriel Cymru gallu siarad Cymraeg y blwch "ie" fydda'n cael fy mhleidlais.

Difyr yw gweld yr henoed yn cael eu crybwyll fel rheswm dros gael doctoriaid Cymraeg. Yn fy mhrofiad i (nid ydwyf yn ddigon clyfar i fod yn ddoctor, ond yr wyf yn nyrs cofrestredig) mae'r henoed yn ddiawliaid am fyny siarad Saesneg efo gweithwyr iechyd. Maen nhw'n dueddol o ddosbarthu eu byd i sefyllfaoedd Cymraeg a sefyllfaoedd Saesneg - y Gymraeg i grefydd a'r Saesneg i iechyd ac ati.

Wrth i'r hen do marw allan mae pethau yn newid, (mae rhai o ieuenctid gwyllt Pont Trefechan yn cael eu trin ar y ward geriatrig bellach). Ond pan ddechreuais nyrsio fe ddywedodd Cymro Cymraeg o ddoctor parchus, aelod o'r orsedd a Chymro da, wrthyf fod yr anfodlonrwydd i siarad Cymraeg efo meddyg mor gryf, pe bai claf yn ymateb yn Gymraeg iddo, nad oedd dewis ganddo ond ystyried y posibilrwydd o ddementia.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Iesu Nicky Grist » Sad 10 Medi 2005 12:27 am

Nes i gwrdd a merch sy'n mynd i 'stydio meddyg'eth heno - a odd hi'n caru fi. A o'n i'n perfect gent. Odd Michael yn dirty pervert 'da hi. Dyw e ffac ol i neud 'da'r drafodaeth, ond fi'n ceisio pwysleisio pwysigrwydd obseshwn hoyw fi 'da'r website 'ma. Gobeithio bydd pawb sy'n cofio'r enw Michael Richardson yn cofio'r boi sy'n g'ryndo ar Glen Campbell ar nos Wener.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan 7ennyn » Sad 10 Medi 2005 12:30 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Dwi erioed wedi torri gair gyda'r dyn casglu sbwriel (mae o'n dod yma cyn imi godi, fel arfer) ond pe bai na phleidlais ar y Maes yn gofyn a dylai casglwyr sbwriel Cymru gallu siarad Cymraeg y blwch "ie" fydda'n cael fy mhleidlais.


Mae'r rhan fwyaf o ddynion casglu sbwriel Gwynedd yn siarad Cymraeg, gan gynnwys fi (ia, sbwrgi ydw i :D ). - Dwnim am Conwy 'de!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 10 Medi 2005 1:54 am

7ennyn a ddywedodd:
Mae'r rhan fwyaf o ddynion casglu sbwriel Gwynedd yn siarad Cymraeg, gan gynnwys fi (ia, sbwrgi ydw i :D ). - Dwnim am Conwy 'de!


Bolycs!

Dyn bins ar ddihun ac yn sgwennu i Faes-e am 1.30 yn y bore!

Bydda’n rhaid iti godi o fewn ddwy awr i wneud casgliad ochrau Rhydymain!

Sgersli bilîf.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan huwcyn1982 » Sad 10 Medi 2005 9:43 am

Yn ystod y flwyddyn gyntaf yng ngholeg meddygaeth Caerdydd mae'r opsiwn gan bawb i ddechrau dysgu Cymraeg, neu gwella'r Cymraeg sy' 'da nhw'n barod.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Al » Sad 10 Medi 2005 9:45 am

Oh da iawn, targed fi ydi trio cael grddau digon da i fynd i neud Meddiginiaeth..

3 A a'r lefel A ydio ynte?
Al
 

Postiogan Sili » Sad 10 Medi 2005 12:31 pm

Al a ddywedodd:Oh da iawn, targed fi ydi trio cael grddau digon da i fynd i neud Meddiginiaeth..

3 A a'r lefel A ydio ynte?


Nage, mond i Oxbridge. Caerdydd yn ABB, ond mae'n raid i'r A fod yn un o'r pynciau gwyddoniaeth (er, mae'n bosib dod rownd hyn efo personal statement dda, chesi ddim A yn y gwyddoniaethau, ond yng nghelf a cerdd. ) Os ti'n 'all-rounder', beryg gei di le beth bynnag (ac mae ambell i lythyr gan batholegwr neu gonswltant yn mynd yn dy ffafr hefyd. Ah, conecshwns bois! :winc: ) Pob lwc de! Mai'n werth hi'n diwadd!
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Al » Sad 10 Medi 2005 1:53 pm

Sili a ddywedodd:Nage, mond i Oxbridge. Caerdydd yn ABB, ond mae'n raid i'r A fod yn un o'r pynciau gwyddoniaeth (er, mae'n bosib dod rownd hyn efo personal statement dda, chesi ddim A yn y gwyddoniaethau, ond yng nghelf a cerdd. ) Os ti'n 'all-rounder', beryg gei di le beth bynnag (ac mae ambell i lythyr gan batholegwr neu gonswltant yn mynd yn dy ffafr hefyd. Ah, conecshwns bois! :winc: ) Pob lwc de! Mai'n werth hi'n diwadd!


Diolch yn fawr Sili, tin llydad dy le be ti wedi deud uchod am cyfathrebu rhwng claf a Doctor, os fyddia ny llwyddianus yn mynd trwy i neud Meddiginiaeth yn Caerdydd(i a fel chdi) fyddai hefyd yn dod nol i'r ardal yma er mwyn hybu'r iaith. 8)
Al
 

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai