Doctoriaid Cymraeg [Heb erioed wedi teimlo'n manky...]

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylai doctoriaid yng Nghymru ddysgu Cymraeg?

Ai
35
92%
Nowehose
3
8%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 38

Doctoriaid Cymraeg [Heb erioed wedi teimlo'n manky...]

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 08 Hyd 2004 2:46 pm

Dweud ar wefan y BBC heddi fod doctoriaid o Awstria yn ca'l gwersi iaith er mwyn deall pobl Swydd Gaerefrog. Pam ddim rhoi gwersi Cymraeg i ddoctoriaid Cymru? Ma digon o freins da nhw.

Gyda llaw, odw i'n gywir i ddweud bod gogs yn dweud 'champion'?

Gall rhyw ieithydd ddweud 'tha'i os mai jargon yr Hen Ogledd yw'r cachu ma' sy'n dod mas o'u cege?
Greengrass! You been poachin' rabbits? (Waw, waw, waw)
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Gethin Ev » Mer 13 Hyd 2004 2:05 pm

Cyn bellad bod nhw'n cael piles off yn nhin i dwi'm yn fucking poeni os mae nhw'n siarad Swahili. for fuck secs ydio wir yn poeni chdi gymaint a hynna?
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 13 Hyd 2004 2:13 pm

Dwi'n meddwl fod e'n hollbwysig Geth. Mae'n hynod o bwysig bod doctoriaid yn gallu cyfathrebu gyda plant ifanc sydd methu siarad Saesneg, pobl anabl sy'n methu siarad Saesneg a hen bobl sydd ddim wedi arfer a defnyddio Saesneg. Rhein ydi'r sector bwysicaf, ond fe ddylse fod yn hawl sylfaenol i dderbyn dy wasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 13 Hyd 2004 2:18 pm

yn union. pan geshi noc ar 'y mhen oni methu siarad saesneg o gwbl... oedd 'yn rhieni i'n goro cyfieithu i'r doctoriaid! :ofn: ma'n hanfodol bod doctor yn dalld be ma'i glaf o'n ddeud siwr dduw.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Gethin Ev » Mer 13 Hyd 2004 2:21 pm

MM, dwi'm yn mynd i weld doctor i gael siarad yn gymraeg. Iechyd ydi prif rheswm dwi'n mynd i weld doctor. Os fedrai fynd i nol mars bar a dewis mynd i siop gymraeg neu un seasneg, yna ai i un cymraeg ond yn anffodus tydi'r dewis yna ddim genai pan mae o yn dod i ddoctor.

Ddigwydd bod Almenwr ydi'n nhoctor i, a i ddeud gwir dwi reit falch bod o wedi dod drosodd yma, gan dyda ni ni ddim fatha cenedl ddim yn creu doctorion. B e'wnai? Felly i mi tydio ddim yn hanfodol bod o ddim yn siarad cymraeg.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan sian » Mer 13 Hyd 2004 2:29 pm

Dw i'n credu ei fod yr un mor bwysig os nad yn bwysicach bod nyrsys practis, nyrsys ardal ac ymwelwyr iechyd yn siarad Cymraeg. Dw i yn credu y dylai fod rhaid iddynt siarad Cymraeg mewn ardaloedd Cymraeg.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 13 Hyd 2004 2:37 pm

Gethin Ev a ddywedodd: Iechyd ydi prif rheswm dwi'n mynd i weld doctor.


Yn union, felly os wy ti ddim yn gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda'r meddyg achos dy fod ti ddim yn siarad Cymraeg, hy canrhan uchel o blant, neu gan dy fod ti neu wedi colli dy Gymraeg fel mae nifer o'r henoed yn dioddef o Enthuasia ac yn refyrtio yn ol i ddim ond alli siarad Cymraeg, dwi ti o bosib ddim mynd i gael triniaeth iawn a felly fe fydd dy iechyd yn dioddef.

Mae'r gwasanaeth iechyd wedi methu darparu gwasanaethau Cymraeg mewn gymaint o feysydd ar hyd y blynyddoedd. Er engraifft, cafodd claf e section-io gan feddyg ac fe'i eithpwyd i sbyti meddwl - fe'i gadwyd yno am fisoedd, achos doedd y staff ddim yn siarad Cymraeg, ac er ei fod wedi gwella, roedden nhw'n meddwl ei fod dal yn wallgo ac yn siarad gobeldi-gwc.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mwddrwg » Mer 20 Hyd 2004 8:51 am

mae cyfathrebu yn hollbwysig - dyna'r unig ffordd gall staff meddygol ddeall anghenion y claf. pan yn wirioneddol wael, mae cyfathrebu mewn ail iaith yn anodd - yn enwedig i blant a'r henoed, felly mi ddylai pob ymdrech gael ei wneud er mwyn darparu gwasanaeth meddygol trwy gyfrwng y Gymraeg. ond yn anffodus, yn fy mlwyddyn i o 250 o fyfyrwyr meddygol yn yr unig ysgol feddygol yng Nghymru, rhyw 20 ohonom sy'n siarad Cymraeg, felly 'dydi darparu gwasanaeth Cymraeg jyst ddim yn mynd i fod yn bosib gan amlaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Al » Gwe 09 Medi 2005 10:14 pm

Mae rhaid i mi fynd efo Macintosh ar hon, mae'n hanfodol fod mwy o Doctoriaid Cymru yn dallt y iaith e.e.

Oblaen, pan o ni efo rhyw Lung Infection eshi i doctoriaid nos ma o'r enw 'Menai Doctors'(tu ol Ysbyty Gwynedd). Ar oldisgwyl am 5 munud roedd y doctor yn barod i'm weld. Doctor 'indian'(neu o gwreiddia y'r ardal hynny a mw ni) oedd hi, sydd ddim yn beth anghyffredin dyddiau yma. Ar ol iddi rhoi diagnosis, triodd hi esbonio be oedd hi yn feddwl oedd o. Ac ffycin hell do ni didm yn gwybod be ddiawl oedd hi yn deud(yn y saesneg oedd o hefyd wrth gwrs. Roedd ei acen hi mor gryf roedd o yn angrheadadwy(sillafu?). Do ni methu coelio mai doctor oedd hi, roedd hi yn hynoed o wael. Roedd dad ddim yn hapus chwaith, doedd o heb ddalt dim o gwbl be udodd hi(mi wneshi ychydig).

O be welais i o cylchlythr PC, mae nhw o blaid i Bangor cael cwrs Meddiginiaeth, i arbed myfyrwyr y gogledd rhag gorfod gadael yr ardal i ffeindio coleg sydd yn gwneud Meddiginiaeth(yn Lloegr fel arfer). Dwi fy hyn yn meddwl fod hyn yn syniad da...

Ac i'r cyrsiau meddiginiaeth rhoi dewis i chid, unai cymraeg neu saesneg, dim uniaith saesneg :x

Geshi mbach o sioc pan welais chdi, Gethin Ev, ddim yn meddwl fod wbath fel hyn yn hanfodol, o ni yn meddlw oedd a chdi oblaid wbath felly ayyb ar ol gweld uchwafbwyntiau Miri Madog, ac o ni yn bennaf wedi clywed fod chid yn boi iawn. Weird...
Al
 

Postiogan Sili » Gwe 09 Medi 2005 10:42 pm

Dwi'n gadael i astudio meddygaeth yng Nghaerdydd mis Medi yma, efo'r bwriad o ddod n'ol i Ben Llyn ar ol i mi raddio er mwyn hybu'r defnydd o'r iaith. Yn bersonnol dwi'n meddwl fod llawer gormod o ddoctoriaid o wledydd tramor yn gweithio yma (gwd God, ma hynna'n swnio'n hiliol, a dwi'm yn olygu fo fela, ond dachi'n gwbod be dwi'n feddwl!)

Dwi di bod yn gweithio mewn ysbytai rwan ers rhyw dair mlynedd bellach a dim ond rhyw dri doctor hollol rhigl yn y Gymraeg dwi di gweithio efo, efo'r canran uchaf o'r lleill yn dod o India etc. Sy'n hollol fine os ydi nhw'n ddoctoriaid da, sgenai ddim problem efo hynna. Jyst fod hein yn dod o wledydd sydd wir yn diodda o ddiffyg doctoriaid yn y lle cyntaf! Ma tal doctor yn Affrica er enghraifft yn warthus, felly allai ddim gweld bai o gwbwl arnyn nhw am fod isio dod i lefydd fel Cymru i bracteisio. Ond yn sgil hynny, ma llawer iawn o ddoctoriaid sydd yn medru'r Gymraeg yn colli allan ar y swyddi, mae canran uchel o med-students, nid yn unig yng Nghymru, yn methu cael swydd bellach gan fod gormod o ddoctoriaid yn mewnfudo i'r wlad.

Yn bennaf, y rheswm fod doctor rhigl yn y Gymraeg wastad yn syniad da yng Nghymru, yn enwedig yn y llefydd fwy gwledig fel fama, ydi fod canran lot uwch o'r bobl yn siarad yn y Gymraeg. Mae doctor sy'n medru cyfathrebu'n rhwydd efo'r claf yn help aruthrol at fedru gwneud 'diagnosis' cywir (yn enwedig efo'r henoed gan fod llawer iawn mwy o'r rhain wedi arfer siarad uniaith Cymraeg). Yr enghraifft orau sgenai i ddangos o hyn ydi pan oni'n gweithio yn Bryn Beryl, sydd yn gweithio'n bennaf efo'r henoed. Dyma doctor Swiss yn trio siarad efo'r ddynas fach ma tra oni wrthi'n rhoi panad iddi, ac wedi cael sgwrs go hir efo hi yn gynharach yn y Gymraeg. Gan nad oedd o'n medru'r iaith, roedd o'n siarad Saesneg go chwithing efo hi ac yn gofyn iddi gyfri'n ol o gant, pwy ydi'r prif wenidog, be di'r dyddiad etc i weld os oedd hi o gwmpas ei phetha. I rhywun sydd ddim ond wedi arfer siarad Cymraeg erioed, ma cyfri'n ol o gant tra fod gena chi ddyn go intimidating yr olwg yn syllu arna chi yn bownd o fod yn broblam, does gen llawer o'r henoed o'r ardaloedd fwy gwledig rownd fama ddim clem pwy di'r prif wenidog gan nad ydio'n cal dim effaith arnyn nhw ac allai fyth gofio'r dyddiad ar ol gorwadd mewn gwely am dros wythnos. Canlyniad y doctor? Odd y ddynas druan yn colli arni. Ar ol idda fo adael, dyma hi'n cychwyn siarad ffwl spid efo fi a'r nyrs yn y Gymraeg gan honni nad oedd hi'n dallt gair o be oedd o'n ddeud.

Mae angen i ddoctor rhoi ffydd i'r claf fod o yno i helpu, a'r ffordd ora i wneud hyn ydi i greu perthynas drwy gyfathrebu'n rhywdd ar y cyfarfod cyntaf. Os dwi'n medru'r Gymraeg, yna mai'n mynd i fod o fydd i mi wrth drio helpu nhw mod i'n medru siarad yn rhwydd efo nhw. Ac felly os ddoi n'ol i Bangor o bosib i weithio, yna dyna un doctor Cymraeg yn fwy yma i drio gwneud gwahaniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron