Doctoriaid Cymraeg [Heb erioed wedi teimlo'n manky...]

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylai doctoriaid yng Nghymru ddysgu Cymraeg?

Ai
35
92%
Nowehose
3
8%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 38

Postiogan huwcyn1982 » Sul 11 Medi 2005 5:45 am

Al a ddywedodd:3 A a'r lefel A ydio ynte?


dwi'n meddwl... ond ges i mewn gyda ABC a lot o ass-lickin. a wedyn nes i adael/cael fy ngwthio mas.. wps..!!
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 11 Medi 2005 10:02 am

Mae bendant yn fantais gallu cyfathrebu â cleifion yn eu mhamiaith.

Yn fy nghriw i yng Nghaerdydd, pan ddethon ni i Gaerdydd gynta roedd -
5 o Gymry Cymraeg
3 o Gymry di-Gymraeg
1 Sais

Yn ystod y flwyddyn gynta, fe aeth y Sais ac un o'r Cymry di-Gymraeg i wersi Cymraeg oedd yn cael eu trefnu gan y Brifysgol. Bellach, mae'r ddau yn 'tebol i siarad yn Gymraeg gyda'u cleifion - y Sais wedi gwneud yn anhygoel o dda (wedi gwneud lefel A bellach), a'r Cymro di-Gymraeg wedi gwneud yn ddigon del hefyd.

Mae'r criw gwreiddiol hwnnw yn dal i weithio fel meddygon mewn ysbytai yn, ac o amgylch Caerdydd. Ers gallu cyfathrebu yn Gymraeg, mae'r ddau wedi gallu cyfri ar un law y nifer o weithiau y maent wedi gallu defnyddio'r iaith gyda cleifion. Dwi ddim yn deud eu bod nhw'n difaru - achos mae'n gret eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg gyda'r gweddill ohonom ni. Ond dwi'n amau fod gorfodi'r 300 (neu faint bynnag ydi o bellach) i ddysgu Cymraeg yn ystod eu cwrs meddygaeth, yn damed bach o overkill yn enwedig pan fo'r mwyafrif ohonynt yn mynd i fod yn gweithio mewn ysbytai yng Nghaerdydd a Chasnewydd lle mae poblogaeth enfawr o bobl sy'n siarad ieithoedd eraill fel eu mhamiaith. Os mae'r ddadl yw y dylai meddygon allu cyfathrebu gyda'u cleifion yn eu mhamiaith, yna byddai cwrs mewn "cyfathrebu syml" yn yr ieithoedd hyn yn fwy o fudd na'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl.

Mae'n wir dweud fod dweud hyn yn mynd yn groes i'r graen, achos mai yng Nghymru ydyn ni, ond dyma realiti.

Ar y llaw arall, dwi wedi gweithio blwyddyn mewn practis (eto, mewn lle nad yw Cymraeg i'w glywed yn aml ar y stryd fawr), ac wedi dod ar draws mwy o Gymry Cymraeg na fy ffrindiau sy'n feddygon mewn ysbytai. Dwi'n credu mai'r rheswm am hyn yw fod y cleifion o'n i'n weld ar ddechrau fy mlwyddyn wedi pasio'r neges ymlaen i eraill i ddweud fod posib cael triniaeth drwy'r Gymraeg yno. Ac felly, ges i lawer o gleifion oedd yn Gymru Cymraeg yn cofrestru o'r newydd. Mae hyn yn awgrymu fod yn well gan bobl allu siarad Cymraeg. Mi fyddai hyn wedi bod yn wych i fi ac i'r cleifion (ac i'r busnes!!), ond yn anffodus (i'r achos yma) symud ymlaen nes i, a mae nhw bellach yn cael eu trin drwy'r Saesneg. A dyma sy'n digwydd yn yr ysbytai hefyd. Mae meddygon ysbytai yn symud yn aml ac felly ddim yn creu yr un math o rapport efo'u cleifion a meddygon practis.

Felly, os bydd fy ffrind sy'n Sais sydd â Chymraeg perffaith bellach yn sefydlu/gweithio mewn practis, bydd yn grêt, achos dwi'n siwr y byddwn ni'n gweld cnewyllyn o Gymry Cymraeg yn symud tuag ato (ymha bynnag ardal). Ond tra mae o'n gweithio yn un o ysbytai'r ardal, prin iawn iawn y bydd o'n defnyddio'i Gymraeg. Ar y llaw arall, 'sa fo'n symud i ysbyty Gwynedd, 'sa'r stori'n wahanol.

Achos hynna i gyd (!) - dwi'n meddwl ei bod hi'n sefyllfa anos na ma rhai ohonoch chi'n feddwl. Ma' gin i ofn na 'sgin i ateb, ond ella annog y meddygon hynny sy'n gweithio mewn ardaloedd 'Cymreig' i ddysgu'r iaith. Ella fod isho mwy o addysg arnyn nhw i sylweddoli FOD Cymraeg yn famiaith i gymaint o'u cleifion. Dwi'n gwybod i sicrwydd fod llawer o'r meddygon ddim hydynoed yn sylweddoli hyn. Mae rhywun siwr o ddadlau y dylid gallu siarad Cymraeg ymhob rhan o Gymru er mwyn gallu trin Cymry Cymraeg Caerdydd a Chasnewydd (er engraifft), ond fel popeth arall yn y cwrs meddygaeth - mae rhai pethau, cyflyrau, salwch ayyb yn digwydd mor anaml, gwell fyddai i dreulio'r amser yn dysgu sut i ddelio a phethau, cyflyrau salwch ayyb sydd yn digwydd yn aml. Mewn bywyd real, yn anffodus, dwi ddim yn gweld ei bod yn economaidd i ddysgu Cymraeg i holl is-raddedigion meddygaeth Caerdydd. A phrun bynnag, mae canran uchel IAWN o'r meddygon sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd wedi cael eu haddysg tu hwnt i Glawdd Offa a phellach, a bydd canran uchel o'r rhai sy'n cael eu haddysg yng Nghaerdydd yn diflannu'n ôl dros Glawdd Offa. Ar hyn o bryd, dwi'n meddwl y gallwn ni ond diolch fod 'na ambell un fel Dave sydd wedi dysgu'r iaith yn wych, ac yn ei defnyddio. Efallai byddai'n well rhoi ychydig o addysg i ddangos fod hyn o fantais ac yn bosibl fel y gall meddygon ddysgu'r iaith o'u dewis eu hunain. Wedi'r cwbl, sut mae disgwyl i is-raddedigion o Loegr a thu hwnt gymryd gwersi Cymraeg gorfodol o ddifri pan nad ydyn nhw'n clywed llawer o'r iaith o ddydd i ddydd? Dwi'n ama'n gryf mai un o'r rhesymau pam na wnaeth y ddau Gymro di-Gymraeg arall ddysgu Cymraeg tra'n is-raddedigion oedd am eu bod wedi eu mhagu yn yr ardal ac yn ymwybodol o cyn-lleied o'r iaith sydd ar "y stryd".

Sori nad oes 'na lawer o "drefn" i'r tryth uchod. Dwi'n gwybod fod ambell i beth 'dwi'di sgwennu yn controfyrshal, ond os darllennwch chi o i gyd, mi sylweddolwch nad ydi fy marn i'n gontrofyrshal! (felly, plis peidiwch a thynnu brawddegau allan o'i cyd-destun!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Doctoriaid Cymraeg [Heb erioed wedi teimlo'n manky...]

Postiogan eifs » Sul 11 Medi 2005 10:54 am

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:

Gyda llaw, odw i'n gywir i ddweud bod gogs yn dweud 'champion'?



yndi! wel di'n dweud o de,
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan huwwaters » Maw 25 Hyd 2005 2:51 am

Wel, dwi'n cofio sawl achlysur tra'n yr ysbytu, ble'r oedd fy mam yn ryw fath o interpreter. Yr oeddwn i'n deallt lingo'r doctor ond dim digon i ddallt rhai manylion yr oedd yn ceisio ei ganfod.

Buasai doctor ar yr adegau yna, wedi bod o fudd i mi, gan fyswn wedi gallu cyfarthrebu'n uniongyrchol, ond ar y llaw arall, tydio ddim yn ymarferol disgwyl i pob ddoctor fod yn alluog yn y Gymraeg.

Petai hwne'n digwydd, byse'r Gymraeg ddim mewn cymaint o drafferth yma'n Nghymru.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Wierdo » Maw 25 Hyd 2005 10:32 am

Dwi'n 18 (dwin pwyntio hyn allan yn y dechrau chos dwin mynd i swnio fel plentyn bach yn munud) a dwi ddim yn hapus yn siarad Saesneg o gwbl. Wel yndw, mi ydwi'n gallu, ond dwin anghofio be di'r geiriau a.y.y.b.. Felly pan eshi i ysbytu Gwynedd rol hitio'n hun yn fy llygaid fo pel rownders (dwin swnio'n ddwl dydw!), a goro esbonio i ddoctor yn saesneg be odd pel rownderi....ers huna dwi heb licio'r ysbytu o gwbwl. Dwi methu hydnoed meddwl am fynd i weld neb yna....mi ai, ond dwim yn hoffi'r lle o gwbwl...i gyd ers yr unig dro dwi di bod yno fel claf. Swni lot fawr iawn hapusach yn cael doctor cymraeg unrhywddydd (ne olea un syn gwybod be di pel rownderi...falla mai training chwaraeon ddyla nw gal?!)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron