Unrhywun allan yn fan'na a fyddai'n barod i wneud chydig bach o gyfieithu (2 neu 3 paragraff gan amlaf) tua pedwar gwaith yr wythnos?
Dw i'n chwilio am rywun i gyfieithu blog Cymuned i'r Saesneg - mae angen rhywun sydd yn gyfforddus wrth sgwennu'n idiomateg yn y Saesneg, a rhywun sydd yn medru rhoi deg munud i mewn oddeutu pedwar gwaith yr wythnos...
Mae gennon ni gyfieithwyr sydd yn gwneud lot o waith i ni'n barod, ond buaswn i'n licio peidio â thaflu mwy byth atyn nhw - ac yn gobeithio y gall fod rhywun allan yn fan'na sydd yn gefnogol ond (am pa bynnag rheswm) ddim yn aelod weithredol iawn ar y funud, ond a hoffai gyfrannu felly...
Neges breifat neu e-bost os oes gan rywun ddiddordeb... diolch!